RHAN 3
BUDDIANNAU
Buddiannau Personol
10.—(1) Ym mhob mater rhaid i chi ystyried a oes gennych fuddiant personol, ac a yw’r cod ymddygiad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddatgelu’r buddiant hwnnw.
(2) Rhaid i chi ystyried bod gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef —
(a) os yw’n gysylltiedig â’r canlynol, neu’n debygol o effeithio arnynt —
(i) unrhyw gyflogaeth yr ydych yn ymgymryd â hi neu fusnes yr ydych yn ei redeg;
(ii) unrhyw berson sy’n eich cyflogi neu sydd wedi eich penodi, unrhyw ffyrm yr ydych yn bartner ynddi neu unrhyw gwmni yr ydych yn gyfarwyddwr arno ac yn derbyn tâl;
(iii) unrhyw berson, ac eithrio eich awdurdod, sydd wedi rhoi taliad i chi mewn cysylltiad â’ch ethol neu mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd gennych wrth i chi gyflawni eich dyletswyddau fel aelod;
(iv) unrhyw gorff corfforaethol y mae ganddo le busnes neu dir yn ardal eich awdurdod, ac y mae gennych chi fuddiant llesiannol mewn dosbarth o warannau sydd gan y corff hwnnw ac sy’n werth mwy na’r gwerth enwol o £25,000 neu un ganfed ran o gyfanswm cyfalaf cyfrannau dyroddedig y corff hwnnw;
(v) unrhyw gontract am nwyddau, gwasanaethau neu waith neu weithfeydd a wnaed rhyngoch chi, rhwng ffyrm yr ydych yn bartner ynddi, neu rhwng cwmni yr ydych yn gyfarwyddwr arno ac yn derbyn tâl, neu rhwng corff o’r math a ddisgrifir yn is-baragraff (iv) uchod a’ch awdurdod;
(vi) unrhyw dir y mae gennych fuddiant llesiannol ynddo ac sydd yn ardal eich awdurdod;
(vii) unrhyw dir y mae eich awdurdod yn landlord arno ac y mae ffyrm yr ydych yn bartner ynddi, cwmni yr ydych yn gyfarwyddwr arno ac yn derbyn tâl, neu gorff o’r math a ddisgrifir yn is-baragraff (iv) uchod yn denant arno;
(viii) unrhyw gorff yr ydych wedi eich ethol, eich penodi neu eich enwebu gan eich awdurdod i fod arno;
(ix) unrhyw —
(aa) awdurdod cyhoeddus neu gorff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus;
(bb) cwmni, cymdeithas ddiwydiannol a darbodus, elusen, neu gorff arall a chanddo ddibenion elusennol;
(cc) corff y mae dylanwadu ar farn neu bolisi cyhoeddus ymhlith ei brif ddibenion;
(chch)undeb llafur neu gymdeithas broffesiynol; neu
(dd) clwb preifat neu gymdeithas breifat sy’n gweithredu o fewn ardal eich awdurdod,
yr ydych yn aelod ohono neu ohoni neu mewn safle rheolaeth neu reoli cyffredinol ynddo neu ynddi;
(x) unrhyw dir yn ardal eich awdurdod y mae gennych drwydded (ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag eraill) i’w feddiannu am 28 o ddiwrnodau neu fwy;
(b) pe byddai’n rhesymol ystyried penderfyniad arno yn benderfyniad a fyddai’n effeithio —
(i) ar eich llesiant neu eich sefyllfa ariannol, neu lesiant neu sefyllfa ariannol person yr ydych yn byw gydag ef, neu unrhyw berson y mae gennych gysylltiad personol agos ag ef;
(ii) ar unrhyw gyflogaeth yr ymgymerir â hi neu fusnes a redir gan bersonau fel a ddisgrifir yn 10(2)(b)(i);
(iii) ar unrhyw berson sy’n cyflogi neu sydd wedi penodi’r cyfryw bersonau ag a ddisgrifir yn 10(2)(b)(i), unrhyw ffyrm y mae’r cyfryw bersonau’n bartneriaid ynddi, neu unrhyw gwmni y maent yn gyfarwyddwyr arno;
(iv) ar unrhyw gorff corfforaethol y mae gan bersonau fel a ddisgrifir yn 10(2)(b)(i) fuddiant llesiannol mewn dosbarth o warannau sy’n werth mwy na’r gwerth enwol o £5,000; neu
(v) ar unrhyw gorff a restrir ym mharagraffau 10(2)(a)(ix)(aa) i (dd) y mae personau a ddisgrifir yn 10(2)(b)(i) mewn safle rheolaeth neu reoli cyffredinol ynddo,
a hynny i raddau mwy—
(aa) yn achos awdurdod â dosbarthiadau etholiadol neu wardiau, na’r rhelyw o bobl eraill sy’n talu’r dreth gyngor, bobl eraill sy’n talu ardrethi neu breswylwyr eraill yn y dosbarth etholiadol neu’r ward, yn ôl y digwydd, y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt; neu
(bb) ym mhob achos arall, na’r rhelyw o bobl eraill sy’n talu’r dreth gyngor, o bobl eraill sy’n talu ardrethi neu breswylwyr eraill yn ardal yr awdurdod.
Datgelu Buddiannau Personol
11.—(1) Pan fydd gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef ac y byddwch yn bresennol mewn cyfarfod lle y caiff y busnes hwnnw ei ystyried, rhaid i chi ddatgelu ar lafar gerbron y cyfarfod hwnnw fodolaeth a natur y buddiant hwnnw cyn i’r cyfarfod ystyried y busnes neu ar ddechrau’r ystyriaeth, neu pan ddaw’r buddiant i’r amlwg.
(2) Pan fydd gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef ac y byddwch yn gwneud —
(a) cynrychioliadau ysgrifenedig (p’un ai drwy lythyr, neges ffacs neu ar ryw ffurf arall ar gyfathrebu electronig) i un o aelodau neu o swyddogion eich awdurdod ynghylch y busnes hwnnw, dylech gynnwys manylion am y buddiant hwnnw yn y gyfathrebiaeth ysgrifenedig; neu
(b) cynrychioliadau llafar (p’un ai’n bersonol neu ar ryw ffurf ar gyfathrebu electronig) i un o aelodau neu o swyddogion eich awdurdod dylech ddatgelu’r buddiant ar ddechrau’r cyfryw gynrychioliadau, neu pan ddaw’n amlwg i chi fod gennych fuddiant o’r fath, a chadarnhau’r cynrychioliad a’r buddiant yn ysgrifenedig o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y cynrychioliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 14(1)(b) isod, os bydd gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef ac y byddwch wedi gwneud penderfyniad wrth arfer un o swyddogaethau gweithrediaeth neu fwrdd, rhaid i chi mewn perthynas â’r busnes hwnnw sicrhau bod unrhyw ddatganiad ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw’n cofnodi bodolaeth a natur eich buddiant.
(4) Rhaid i chi, mewn cysylltiad â buddiant personol nas datgelwyd eisoes, cyn cyfarfod neu’n syth ar ôl diwedd cyfarfod pan ddatgelir y buddiant yn unol ag is-baragraff 11(1), roi hysbysiad ysgrifenedig i’ch awdurdod yn unol ag unrhyw ofynion a nodir gan swyddog monitro eich awdurdod neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod o bryd i’w gilydd ond, rhaid cynnwys o leiaf —
(a) manylion am y buddiant personol;
(b) manylion am y busnes y mae’r buddiant personol yn gysylltiedig ag ef; ac
(c) eich llofnod.
(5) Pan fydd eich swyddog monitro wedi cytuno bod yr wybodaeth sy’n ymwneud â’ch buddiant personol yn wybodaeth sensitif, yn unol â pharagraff 16(1), mae eich rhwymedigaethau o dan y paragraff 11 hwn i ddatgelu’r cyfryw wybodaeth, p’un ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, i’w disodli gan rwymedigaeth i ddatgelu bodolaeth buddiant personol ac i gadarnhau bod eich swyddog monitro wedi cytuno bod y cyfryw fuddiant personol o natur gwybodaeth sensitif.
(6) At ddibenion is-baragraff (4), dim ond os bod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu yn unol â’r cod hwn ers y dyddiad diwethaf pryd yr etholwyd chi, y penodwyd chi neu yr enwebwyd chi’n aelod o’ch awdurdod y bernir bod buddiant personol wedi ei ddatgelu eisoes.
(7) At ddibenion is-baragraff (3), os na ddarperir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â’r paragraff hwnnw bernir na fyddwch wedi datgan buddiant personol yn unol â’r cod hwn.
Buddiannau sy’n Rhagfarnu
12.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, os bydd gennych fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef bydd gennych hefyd fuddiant sy’n rhagfarnu yn y busnes hwnnw os bydd y buddiant yn un y bydd yn rhesymol i aelod o’r cyhoedd sy’n gwybod y ffeithiau perthnasol fod o’r farn ei fod mor arwyddocaol fel y bydd yn debygol o ragfarnu eich barn ynghylch buddiant cyhoeddus.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nid ystyrir bod gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes os bydd y busnes hwnnw—
(a) yn gysylltiedig—
(i) ag awdurdod perthnasol arall yr ydych hefyd yn aelod ohono;
(ii) ag awdurdod cyhoeddus arall neu gorff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus lle yr ydych mewn safle rheolaeth neu reoli cyffredinol;
(iii) â chorff yr ydych wedi cael eich ethol, eich penodi neu eich enwebu gan eich awdurdod i fod arno;
(iv) â’ch rôl fel llywodraethwr ysgol (os na chawsoch eich penodi neu eich enwebu gan eich awdurdod) oni bai bod y busnes yn benodol gysylltiedig â’r ysgol yr ydych yn un o’i llywodraethwyr;
(v) â’ch rôl fel aelod o Fwrdd Iechyd Lleol os na chawsoch eich penodi neu eich enwebu gan eich awdurdod i fod arno;
(b) yn gysylltiedig:
(i) â swyddogaethau tai eich awdurdod os oes gennych denantiaeth neu les gyda’ch awdurdod, ar yr amod nad oes arnoch i’ch awdurdod ôl-ddyledion rhent o fwy na deufis, ac ar yr amod nad yw’r swyddogaethau hynny’n ymwneud yn arbennig â’ch tenantiaeth neu â’ch les;
(ii) â swyddogaethau eich awdurdod mewn cysylltiad â phrydau ysgol, cludiant a threuliau teithio, os ydych chi’n warchodwr, yn rhiant, yn fam-gu neu’n nain neu’n dad-cu neu’n daid, neu os oes gennych gyfrifoldeb rhiant (fel y’i diffinnir yn adran 3 o Deddf Plant 1989) dros blentyn sy’n cael addysg lawnamser, onid yw’r busnes yn benodol gysylltiedig â’r ysgol y mae’r plentyn hwnnw’n ei mynychu;
(iii) â swyddogaethau eich awdurdod mewn cysylltiad â thâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, os ydych yn cael, neu os oes gennych hawl i gael, taliad o’r fath gan eich awdurdod;
(iv) â swyddogaethau eich awdurdod mewn cysylltiad â lwfans neu daliad a wneir yn unol â darpariaethau Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 neu lwfans neu bensiwn a ddarperir o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
(c) yn gysylltiedig â’ch rôl fel cynghorydd cymunedol mewn perthynas â grant, benthyciad neu fath arall ar gymorth ariannol a wnaed gan eich cyngor cymuned i gyrff cymunedol neu wirfoddol hyd at uchafswm o £500.
(3) Nid yw’r esemptiadau yn is-baragraff (2)(a) yn gymwys os yw’r busnes yn gysylltiedig â dyfarnu ar unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad.
Pwyllgorau Trosolygu a Chraffu
13. Bydd gennych hefyd fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes sydd gerbron un o bwyllgorau trosolygu a chraffu eich awdurdod (neu un o is-bwyllgorau pwyllgor o’r fath )—
(a) os bydd y busnes hwnnw’n gysylltiedig â phenderfyniad a wnaed (p’un a gafodd ei weithredu ai peidio) neu gam a gymerwyd gan weithrediaeth, bwrdd, neu un arall o bwyllgorau, is-bwyllgorau, cyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau eich awdurdod; a
(b) os oeddech chi, ar yr adeg pan wnaed y penderfyniad neu pan gymerwyd y cam, yn aelod o’r weithrediaeth, y bwrdd, y pwyllgor, yr is-bwyllgor, y cyd-bwyllgor neu’r cyd-is-bwyllgor a grybwyllir yn is-baragraff (a) a’ch bod chi’n bresennol pan wnaed y penderfyniad hwnnw neu pan gymerwyd y cam hwnnw.
Cyfrannu mewn Perthynas â Datgelu Buddiannau
14.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (2A), (3) a (4), os bydd gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef rhaid i chi, oni roddwyd i chi ollyngiad gan bwyllgor safonau eich awdurdod —
(a) ymadael â’r ystafell, y siambr neu’r man lle y mae cyfarfod i ystyried y busnes yn cael ei gynnal—
(i) pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, yn syth ar ôl i’r cyfnod ar gyfer gwneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes ddod i ben a beth bynnag cyn i ystyriaeth bellach o’r busnes ddechrau, p’un a ganiateir i’r cyhoedd aros yn bresennol ar gyfer y cyfryw ystyriaeth ai peidio; neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, pa bryd bynnag y daw i’r amlwg bod y busnes hwnnw’n cael ei ystyried yn y cyfarfod hwnnw;
(b) peidio ag arfer swyddogaethau gweithrediaeth neu fwrdd mewn perthynas â’r busnes hwnnw;
(c) peidio â cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch y busnes hwnnw;
(ch) peidio â gwneud unrhyw gynrychioliadau ysgrifenedig (p’un ai drwy lythyr, neges ffacs neu ar ryw ffurf arall ar gyfathrebu electronig) mewn perthynas â’r busnes hwnnw; a
(d) peidio â gwneud unrhyw gynrychioliadau llafar (p’un ai’n bersonol neu ar ryw ffurf ar gyfathrebu electronig) mewn cysylltiad â’r busnes hwnnw neu rhaid i chi roi’r gorau ar unwaith i wneud y cyfryw gynrychioliadau llafar pan ddaw’r buddiant sy’n rhagfarnu i’r amlwg.
(2) Os oes gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef cewch fod yn bresennol mewn cyfarfod ond dim ond er mwyn gwneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes, ar yr amod y caniateir hefyd i’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod i’r un diben, p’un ai o dan hawl statudol neu fel arall.
(2A) Os oes gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef cewch gyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymwneud â’r busnes hwnnw, ar yr amod y caniateir i’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod at y diben o wneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes, pa un ai o dan hawl statudol neu fel arall.
(2B) Pan fyddwch yn cyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig o dan is-baragraff (2A), rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw weithdrefn y caiff eich awdurdod eich fabwysiadau ar gyfer cyflwyno cynrychioliadau o’r fath.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn eich rhwystro rhag bod yn bresennol a chyfrannu mewn cyfarfod —
(a) os gofynnir i chi fod yn bresennol mewn cyfarfod pwyllgor trosolwg neu graffu, gan y cyfryw bwyllgor ac yntau’n arfer ei bwerau statudol; neu
(b) os oes gennych y fantais o fod gollyngiad wedi ei roi i chi ar yr amod—
(i) eich bod yn datgan yn y cyfarfod eich bod yn dibynnu ar y gollyngiad; a
(ii) eich bod, cyn y cyfarfod neu’n syth ar ôl i’r cyfarfod orffen, yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’ch awdurdod a bod hwnnw’n cynnwys —
(aa) manylion y buddiant sy’n rhagfarnu;
(bb) manylion y busnes y mae’r buddiant sy’n rhagfarnu’n gysylltiedig ag ef;
(cc) manylion y gollyngiad a’r dyddiad pryd y’i rhoddwyd; a
(chch) eich llofnod.
(4) Os bydd gennych fuddiant sy’n rhagfarnu a’ch bod yn gwneud cynrychioliadau ysgrifenedig neu lafar i’ch awdurdod gan ddibynnu ar ollyngiad, rhaid i chi ddarparu manylion am y gollyngiad o fewn unrhyw gynrychioliad ysgrifenedig neu lafar o’r fath ac, yn yr achos olaf hwn, rhaid i chi ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer eich awdurdod o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y cynrychioliad.
This page is also available in: English