Cynhelir cyfarfod Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ddydd Llun 20 Mehefin 2022 am 8:00yh, yn y Ganolfan Gymuned.
Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
1. Derbyn Ymddiheuriadau. 2. Materion Personol. 3. Datgan diddordeb. 4. Adolygu’r trefniant parhaus dros dro gwneud dyletswyddau’r Clerc gan y Swyddog Priodol a’r Swyddog Cyllid Cyfrifol. 5. Cadarnhau cofnodion 9 Mai a 16 Mai 2022. 6. Materion yn codi o’r cofnodion. 7. Derbyn yr adroddiad Archwilio Mewnol a chymeradwyo'r Datganiadau Cyfrifyddu a Llywodraethu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 (danfonwyd i aelodau). 8. Adroddiad ariannol. a. Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 31 Mai 2022 b. Cadarnhau taliadau. i. Trwsio ffensys - Pynfarch c. Taliadau cylchynnol – cadarnhau cyfarwyddiadau parhaus i dalu debyd uniongyrchol newidiol: i. BT – Neuadd. Ffôn a band llydan. ii. Cofrestru ICO iii. Dŵr Cymru d. Taliadau a dderbyniwyd. 9. Adolygu ffioedd awdurdodau claddu a threfniadau talu 10. Y diweddaraf am brosiect Cynnal Llanddewi Brefi LEADER Grant project 11. Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau). a. Archwilio Cymru - Arolwg cenedlaethol o gynghorau tref a chymuned b. Cylchlythyr Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru c. E-bost - Hedgehog Highway Project d. Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus CEREDIGION - Arolwg Ymgysylltu Cynllun Llesiant Lleol y BGC 12. Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) 13. Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion. 14. Cais Cynllunio. a. I nodi’r cymeradwyaethau canlynol: i. A211064 – Morfa Isaf, Llanddewi Brefi, SY25 6RP; codi estyniad tŷ ii. A220262 – Brynglas, Llanddewi Brefi; Uwchraddio trac mynediad b. Ystyried y ceisiadau canlynol: i. A220327 - Cais ôl-weithredol ar gyfer gwaith daear gan gynnwys tynnu gwrychoedd, torri coed a gosod tanc septig newydd; Bryndomen, Tregaron, SY25 6PR. ii. A220324 - Caniatâd Adeilad Rhestredig - Amnewid y drws mynediad blaen, rendro wal dalcen, system gwres canolog. Gosod gwyntyll echdynnu. 3 Stryd Penuwch. iii. A220288 - Gosod a gweithredu mast meteorolegol dros dro 90m; Tir 3km i'r de-ddwyrain o Ffordd y Mynydd (U1518) Llanddewi Brefi. iv. PL/03820 – Gosod mast 30m, Clywedog Plantation 15. Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae. 16. U.F.A. 17. Dyddiad y cyfarfod nesaf.
This page is also available in: English