Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 10/10/2022

PDF Lawrlwytho PDF

Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ddydd Llun 10 Hydref 2022 am 7:30yh, yn y Ganolfan Gymuned.
Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd

Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd.
Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda.
Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).

5) Cadarnhau cofnodion 12 Medi 2022.
6) Materion yn codi o’r cofnodion.
7) Adroddiad ariannol.

a) Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 30 Medi 2022
b) Cadarnhau taliadau:

i) Torri Porfa – anfoneb nr 11
Ad-dalu aelodau am daliadau.
ii) Prynu blychau storio ar gyfer bynting
iii) Tap newydd ar gyfer wrn te y Neuadd

c) Taliadau cylchynnol:

i) BT – Neuadd. Ffôn a band llydan.
ii) Taliadau banc.
iii) ICO (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth) Ffi diogelu data

d) Taliadau a dderbyniwyd

i) Ad-dalu costau claddu – T E Jones (2021-2022)

8) Adolygu ffioedd awdurdodau claddu a chontract clerc claddu.
9) Cymeradwyo cynllun hyfforddi’r Cyngor ar gyfer 2022
10) Ystyried cynnig cyllid ar gyfer casglu sbwriel/glanhau neuaddau pentref.
11) Ystyried ceisiadau am gymorth ariannol.
12) Ystyried cynnal a chadw cofebion rhyfel, atgyweirio sied y fynwent a glanhau’r lloches bws.
13) Y diweddaraf am brosiect Cynnal Llanddewi Brefi LEADER Grant project
14) Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).

a) Un Llais Cymru – Pwysigrwydd o Gynghorau Cymuned & Thref wrth adeiladu lleoedd cydnerthedd a gyfer natur. Cynhadledd Ar-Lein Dydd lau Hydref 27
b) Urdd Gobaith Cymru – cais am gymorth ariannol
c) Un Llais Cymru – atgoffa – dyddiadau hyfforddiant mis medi & mis hydref
d) Hywel Dda – Adroddiad Cynghorau Iechyd Cymuned
e) Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Canllawiau Arolygon Cymunedol
f) Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – Clwb Coffi Cymunedol
g) Un Llais Cymru – Ceisiadau am Ddiffibrilwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru

h) Un Llais Cymru – Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau i Leoedd Lleol i Fyd Natur 21/11/2022
i) Cyngor Sir Ceredigion – lythyr ar gyfer Praesept 2023-24
j) Un Llais Cymru – Cyngor Cymuned Beulah Swydd Wag
k) Lythr wrth Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Pedr
l) Archwilio Cymru – Gollwng lleoliadau Hydref 2022
m) Un Llais Cymru – Pwyllgor Ardal Ceredigion 12/10/2022
n) Un Llais Cymru – Ymgyrchu i wella llwybrau a mynediad at natur www.ramblers.org.uk/einllwybraueindyfodol
o) Un Llais Cymru – Fforwm Cenedlaethol Rhanddeiliaid Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llesiant Cymru: 2022 | LLYW.CYMRU
p) Llanddewi Brefi Fuel Allotment Charity – copi o’i gyfrifon blynyddol 2021/2022

15) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
16) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
17) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
18) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
19) Dyddiad y cyfarfod nesaf.

L Zanoni, Clerc i’r Cyngor
06/10/2022

This page is also available in: English