Agenda Cyfarfod Cyngor Cymuned – 12/01/26

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol o’r Cyngor Cymuned Nos Lun Ionawr 12fed 2026 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

Agenda

  1. Croeso
  2. Derbyn Ymddiheuriadau
  3. Materion Personol
  4. Datgan Diddordeb
  5. Cyfranogiad y cyhoedd
  6. Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Rhagfyr 8fed 2025
  7. Materion yn codi
  8. Adroddiad PCSO
  9. Materion Ariannol
    • Cymeradwyo cyfrifon banc i’r cyfnod yn gorffen Rhagfyr 31ain 2025
      • Awdurdodi taliadau – Staff a thaliadau cyfrinachol
      • Treuliau Digwyddiadau Nadolig
    • Taliadau cylchol
      • Teleffon a band enag y Neuadd BT
      • Taliadau Banc
    • Llog Banc a Dderbyniwyd
    • Taliadau a dderbyniwyd – Ad daliad Torch Pabi Coch
    • Cyfriflenni Banc Cyngor Cymuned a Phwyllgor y Neuadd
  10. Ystyried cynigion cyllideb a chymeradwyo praesept ar gyfer 2026-2027
  11. Cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refiniw ynglyn â darparu Gwasanaethau yn ymwneud â Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar Fawrth 31ain 2025.
  12. Adroddiad Adran 6 Bioamrywiaeth / Cynllun Bioamrywiaeth 2026-2028
  13. Gohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
  14. Diweddariad Taith Tractor er budd elusen Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed
  15. Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
  16. Datblygiadau Ynni Waun Maenllwyd / Lan Fawr / Bryn Rhudd
  17. Gohebiaeth
  18. Unrhyw fater arall
  19. Dyddiad y cyfarfod nesaf – Chwefror 9fed 2026 am 7:30pm

GALL AELODAU O’R CYHOEDD A’R WASG DDERBYN UNRHYW DDOGFENNAU A GYFEIRIR ATO YN YR AGENDA GAN Y CLERC CYN Y CYFARFOD. E-BOSTIWCH CEISIADAU I clerk@llanddewibrefi.org

This page is also available in: English