Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 10/07/2023

Cynhelir cyfarfod o’r Cyngor Cymuned Nos Lun 10fed Gorffennaf 2023 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. I dderbyn ymddiheuriadau.
2. Materion Personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Nodi’r trefniadau presennol ar gyfer y gwasanaeth Galw Heibio Ieuenctid cyn gwyliau’r haf.
8. Adolygu yswiriant ar gyfer gwasanaethau claddu.

a. Torri Gwair Ychwanegol

9. Adolygu a mabwysiadu’r Rheolau Sefydlog Diwygiedig
10. Adroddiad ariannol

a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 30 Mehefin 2023.
b. Awdurdodi taliadau.

i. Staff a thaliadau cyfrinachol
ii. Treuliau Galw Heibio Ieuenctid
iii. Ffioedd archwiliwr mewnol

c. Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol newidiol parhaus:

i. BT – ffôn Neuadd a band eang.
ii. Ffioedd banc

d. Taliadau a dderbyniwyd.

i. Wayleaves
ii. Hawl i osod cofeb

11. Gohebiaeth

a. Mark Webb-SSW- TRF:Enquiry regarding route 48/34
b. Ceredigion County Council: Efion Jones: RE: Issues re: Private track from Nant Gwernog near Llanddewi Brefi
c. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru: AROLWG O GYMUNEDAU YNG NGHEREDIGION
d. Belltown Power UK Ltd: RE: Llanddewi Brefi Community Council meeting 27th June
e. Sirgar Llyw Cymru: Digwyddiad Rhanddeiliaid Afon
f. Un Llais Cymru

i. ATGOFFA – DYDDIADAU HYFFORDDIANT MEHEFIN & GORFFENNAF 2023
ii. FW: Keep Wales Tidy – training and contract services survey for Town and Community Councils
iii. FW: Sustainable Drainage Feasibility Grant

12. Derbyn adroddiad gan y PCSO
13. Adroddiad y Cynghorydd Sir ar faterion yn codi o Geredigion
14. Ceisiadau cynllunio
15. Derbyn adroddiad gan bwyllgor y Neuadd Bentref a Meysydd Hamdden.
16. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
17. Dyddiad y cyfarfod nesaf

L. Zanoni, Clerc i’r Cyngor
05/07/2023

This page is also available in: English