Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 14/02/2022

PDF Lawrlwytho PDF

Cynhelir Cyfarfod o’r Cyngor Nos Lun, 14 Chwefror 2022 yn y Ganolfan am 7.00 o’r gloch.

Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu e-bostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

  1. Derbyn ymddiheuriadau.
  2. Materion Personol.
  3. Datgan buddiannau personol.
  4. Cyflwyniad gan Gymdeithas Mynyddoedd y Cambria am statws AHNE posib.
  5. Ystyried ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad am goedwigo posib ar dir Brynglas gan Goedwigaeth Tilhill.
  6. Cadarnhau trefniant dros dro gwneud dyletswyddau’r Clerc gan y Swyddog Priodol a’r Swyddog Cyllid Cyfrifol 
  7. Cadarnhau cofnodion y Cyngor Cymuned 17 Ionawr 2022.
  8. Materion yn codi o’r cofnodion.
  9. Ystyried cyfraniad ariannol i Helfa Gogerddan.
  10. Adroddiad ariannol 
    1. Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 31 Ionawr 2022.
    2. Cadarnhau taliadau.
      1. Zoom – ad-daliad am daliadau 06/12/2021-06/02/2022 
      2. Ad-daliad am brynu rhaglennydd gwresogi a ‘Keysafe’ar gyfer y Ganolfan Gymunedol.
      3. Cyfraniadau
    3. Taliadau cylchol.
      1. BT – Ffôn y Neuadd a band llydan 
    4. Taliadau a dderbyniwyd.
  11. Ystyried amodau cyflogi a chyfrifoldebau’r Archwilydd Cyllid Mewnol.
  12. Ystyried gwneud cais am grant wrth Cynnal y Cardi – cynllun LEADER  a grant adfywio bach CAVO.
  13. Gohebiaeth. 
    1. Belltown Power – cais am gyfarfod a wnelo â’r cais sydd newydd ddod i’r amlwg – Fferm Wynt Maenllwyd
    2. Sesiwn Friffio i ddarpar ymgeiswyr Cyngor Tref / Cymuned  Nos Fercher, Mawrth 2il 2022 am 6.00pm dros Zoom.
    3. Gwahoddiad i  gynnig storiau am ddatblygiadau, storiau a chyfarfodydd i Caron360, a webinar Bro360  ar Bro360 ar Zoom ym mis Mawrth. 
    4. Newyddlen Mynyddoedd y Cambria.
    5. Y Lleng Brydeinig – gwybodaeth am y Queen’s Green Canopy project – prosiect  Jiwbili Platinum y Frenhines 2022.
    6. Holiadaur Asesiad Chwarae 2022  Ceredigion –
    7. Newyddlen Cyngor Bwrdd Iechyd Hywel Dda
    8. Gwahoddiad i gyfarfod Blynyddol Cylch Meithrin Tregaron 28/02/2022 am 7pm yn yr adeilad newydd Ysgol Henry Richard.
    9. Ambiwlans Awyr Cymru 2021/22 Apel Grant Cymunedol
  14. Derbyn adroddiad am gamgymeriadau wrth drawsysgrifo manylion Cyfrifiad 1921 ar wefan ‘Find my Past’.
  15. Adnewyddu lluniau Cynghorwyr ar wefan y pentref.
  16. Adroddiad gan yr Heddlu Cymunedol PCSO
  17. Derbyn adroddiad am arwyddion ffordd wedi torri yn y pentref
  18. Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
  19. Cais Cynllunio.
    1. I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:
      1. A211053 – Cae Pedr, Llanddewi Brefi; cais am osod carafan ar y safle fel aneddle dros dro tra’n adeiladu tŷ. Caniatawyd gydag amodau.
      2. A210950 – Tir wrth ymyl Capel Bethlehem; cais am osod carafan ar y safle fel aneddle dros dro tra’n adeiladu tŷ. Caniatawyd gydag amodau.
  20. Adroddiad byr am y Neuadd a’r  Cae Chwarae.
  21. Ysgol Henry Richard.
  22. Unrhyw fater arall.
  23. Dyddiad y cyfarfod nesaf.   

This page is also available in: English