Cynnal Llanddewi Brefi – 10/2022

Mae prosiect Cynnal Llanddewi Brefi, a gefnogwyd gan gyllun Leader Cynnal y Cardi, wedi dod ag adnoddau newydd i Neuadd y Pentref a’r Ganolfan Gymuned. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r Bwrdd gwyn SMART rhyngweithiol, y camera fideo gynadledda/ meic/ sustem sain wedi eu gosod lan, ynghyd â sgrin gyffwrdd gyfrifiadurol / adnodd cyfarfodydd hybrid gydag opsiwn i ddefnyddwyr gysylltu eu dyfais eu hunain er mwyn rhannu a defnyddio cynnwys. 

Mae’r sustem yn cynnwys cyfrifiadur PC integredig ag arno feddalwedd Microsofft Office. Mae arno hefyd gyfrifon unigol i grwpiau o ddefnyddwyr sy’n medru cael mynediad i’w  dogfennau eu hunain drwy One Drive neu storfa  arall a chreu/storio cynnwys yn ystod cyfarfodydd / sesiynnau – gan gynnwys cynnwys rhyngweithiol o’r bwrdd gwyn ac awgrymiadau ac ati. 

Mae modd symud lefel y sgrin yn awtomatig yn ol y galw – yn ddibynnol ar ddefnydd, taldra defnyddwyr ee plant a nifer y gwylwyr. Gall y sgrin gael ei symud rhwng ystafelloedd gan gynig hyblygrwydd i ddefnyddwyr. 

Mae camera fideo ongl-llydan pob tywydd a mast ar gael i grwpiau eu defnyddio i fentora, hyfforddi a recordio cynnwys cyfarfodydd a chyflwyniadau. 

Mae cynllun peilot ynn cynnig gofod cymdeithasol anffurfiol i ieuenctid yn y Ganolfan Gymuned wedi denu defnyddwyr newydd ac wedi llwyddo i ddenu pobl ifainc i ail-gyfranogi.   

Cynhaliwyd sesiynnau ‘Taro Mewn’ ddwywaith yr wythnos o awst tan ddiwedd mis Hydref gyda i fyny at 18 yn mynychu yn rheolaidd. Mae’r holiadur arolwg yn dangos bod yr aelodau yn fodlon iawn gyda’r adnoddau, y r amserau sesiwn a gwasanaeth y gwirfoddolwyr sy’n arolygu. Awgrymiadau ar sut i wella’r ddarpariaeth  oedd cael mwy o weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau tu fas ynghyd â mwy o sesiynnau coginio ar ôl sesiwn arddangos lwyddiannus gan wirfoddolwyr.

Bu 17 o wirfoddolwyr yn rhan o’r prosiect ieuenctid, yn cynrychioli y rhan fwyaf o’r grwpiau cymunedol a fu’n rhan o’r ymgynghoriad  yn y Gwanwyn. Barn y gwirfoddolwyr oedd fod y sesiynnau wedi bod yn dda ac yn gynhyrchiol, gyda’r ieuenctid yn dysgu sgiliau newydd, mwynhau gêmau a chymdeithasu.  Mae’r bwrdd gwyn rhyngweithiol wedi bod ar gael a’i ddefnyddio ar gyfer tynnu lluniau, chwilio drwy’r rhyngrwyd, chwarae cerddoriaeth, cadw’n heini a dawnsio.

Ar ol trafodaeth gyda’r rhai sy’n mynychu yn rheolaidd, mae gwirfoddolwyr wedi cynnig bod y cynllun yn parhau unwaith yr wythnos am 2 ½ awr.

Trefnwyd parti Calan Gaeaf gyda bwyd a lluniaeth am ddim i aelodau’r Grwp Ieuenctid, gwirfoddolwyr, rhieni,/gwarcheidwaid a phlant o bob oed er mwyn codi ymwybyddiaeth am y clwb ieuenctid a’r adnoddau newydd. Daeth mwy nag 80 o blant at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth, dawns a dathlu. Trefnwyd taith Calan Gaeaf ar y cyd â Chanolfan Deulu gyfagos a diolch i fenter Un Planed Lleol bu’r gystadleuaeth ‘dyfalu pwysau’r bwmpen’ yn llwyddiant a chafodd ei gerfio gan un o wirfoddolwyr y Clwb Ieuencid. Mae holiaduron wedi eu casglu wrth holl aelodau’r Clwb ac mae twrnamaint wedi ei drefnu ar gyfer Rhagfyr 16, fel ymateb i’r arolwg. Mae’r twrnamaint wedi ei gefnogi gan Bwyllgor y Neuadd a’r tlysau wedi eu noddi gan fusnes lleol. O ganlyniad i lwyddiant y prosiect, trefnwyd cyfarfod i benderfynu’r ffordd ymlaen. Cynhelir y cyfarfod o fewn yr wythnosau nesaf.    

Cafodd gwirfoddolwyr o sawl mudiad hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r dechnoleg newydd gan Pugh Computers ym mis Gorffennaf a chafwyd sesiwn arall gan aelodau Pwyllgor y Neuadd ym mis Hydref er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Cafodd y sustem ddigidol ei defnyddio yn eang at aml bwrpas ers ei gosod yn y neuadd, gan gynnwys darparu cerddoriaeth a delweddau fel cefnlen i’r dathliadau Jiwbili yn y neuadd gyda’r  camera fideo wedi ei ddefnyddio i recordio’r carnifal blynyddol ac arolwg safle ar gyfer y prosiect gardd  bywyd gwyllt. Defyddiwyd sawl recordiad o gêmau pêl droed ar gyfer sesiynnau hyfforddiant. 

Yn ystod sesiynnau wythnosol y Clwb Celf a Chrefft ar brynhawniau dydd Gwener yn y Ganolfan Gymuned, mae’r bwrdd gwyn rhyngweithiol aml-gyfrwng wedi ei ddenyddio i greu celfyddyd a chatalogio delweddau o waith aelodau.

Mae’r Cylch Ti a Fi Cywion Caron yn cwrdd yn wythnosol ac wedi defnyddio’r offer ar gyfer  paentio rhyngweithiol a sesiynnau  canu a dawnsio. Mae’r bwrdd gwyn yn cynnig cyfle i blant ddefnyddio  peniau lliw i chwarae gyda siapiau, lliw a gêmau rhif.

Mae Clwb Pêl Droed Sêr Dewi wedi defnyddio’r  camera Fideo Go-Pro a’r mast lefel uchel i ffilmio sesiynnau hyfforddiant a  gêmau cartref. Gall y camera recordio’r holl gae  chwarae  sy’n ei gwneud yn bosib i adolygu a dadansoxdi’r chwarrae  gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi – Mae’r Clwb wedi defnyddio’r dechnoleg i arddangos agendau yn ystod cyfarfodydd ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer cystadlaethau gwaith cartref yr Eisteddfod. ee FideosTic Toc a dysgu symudiadau i’r ddawns greadigol. Defnyddiwyd i chwilota am wybodaeth a chofnodi syniadau ar y bwrdd gwyn. Gobeithio bydd ffilmiau i’w dangos  a denu siaradwyr gwadd  draws y byd.

Ladis Pinc – Tynnu’r Gelyn. Gwylio fideos o hyfforddiant tynnu a chystadlaethau. Yn y flwyddyn newydd bydd y sustem yn cael ei defnyddio ar gyfer sesiynnau ffitrwydd hybrid er mwyn annog mwy o ymwneud gan aelodau a gwella gwaith tîm.

Bydd Sioe Llanddewi Brefi yn defnyddio’r camera fideo i ffilmio da byw ar ffermydd blwydyn nesaf a’u harddangos ar ddiwrnod Sioe. Defnyddir yr offer ar gyfer cyfarfodydd hybrid.

Grŵp Natur Llanddewi Brefi – Defnyddiwyd y sustem ar gyfer cynllunio a datblygu gardd bywyd gwyllt ger y lle chwarae ac i hyfforddi aelodau i ddefnyddio’r offer newydd. Defnyddiwyd y camera i gofnodi taith rithiol a defnyddiwyd y bwrdd gwyn i uwchosod delweddau lloeren a chynlluniau er mwyn arbrofi gydag amrywiol ffyrdd o blannu gardd.

Mae Pwyllgor Ras Gŵyl Dewi wedi cynnal cyfarfod i hyfforddi aelodau ar sut i ddefnyddio’r sgrin ryngweithiol ddigidol ac wedi docio eu dyfeisiau digidol i ganiatau rhannu gwybodaeth a chynllunio mewn cyfarfodydd.

Yn eu cyfarfod Blynyddol diweddar, soniodd Llywydd Sefydliad y Merched Llanddewi Brefi fel a ganlyn am y sustem ddigidol– “ Mae’r dechnoleg newydd yn y Ganolfan yn ein galluogi  i gael mynediad  i’r byd ehangach ac yn ein galluogi i ymwneud ag eraill mewn ffyrdd na fu’n bosib i ni cyn hyn. Gallwn rannu cyrsiau rhithiol sydd wedi eu paratoi i ni gan y mudiad yn genedlaethol.

Gallwn ddewis siaradwyr o’r byd benbaladr, gyda mynediad llawn i’r wê, chwilota unrhyw faes, unrhyw fater, unrhyw achos, sgiliau neu adloniant a fynnwn.”Dangoswyd yr Adroddiad Blynyddol mewn delweddau ar sgrin fel tystiolaeth o’n gweithgareddau. Cynhaliwyd tair sesiwn i godi ymwybyddiaeth o botensial y sustem. Mae cyfarfodydd hybrid wedi eu cynnal sy’n gymorth i gynnwys yn gymdeithasol y rhai rhy fregus i gwrdd wyneb yn wyneb.

Bu’r prosiect hwn yn llwyddiant yn yr ymdrech i ddod â grwpiau ynghyd i gydweithio fel gwirfoddolwyr a’u hannog i ymchwilio ffyrdd I weithio gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol newydd. Mae pawb fu’n ymwneud â’r prosiect wedi rhoi adborth a syniadau sy’n dyst bod yr offer o fudd i’r gymuned. Bu llawer o ddiddordeb yn y prosiect a chred Pwyllgor y Neuadd y bydd yr offer yn fodd i annog mwy o gymdeithasau i ddefnyddio ein hadnoddau a’n galluogi i barhau i fod yn adnodd cymunedol cynaliadwy.


This page is also available in: English