Ni fydd sbwriel yn cael ei gasglu yn ardal Aberteifi na Llanbedr Pont Steffan ddydd Gwener, 10 Rhagfyr 2021, yn dilyn achosion positif o’r coronafeirws ymhlith staff.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Bydd ein staff yn blaenoriaethu’r gwasanaeth graeanu dros y dyddiau nesaf i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd ar y ffyrdd.
Os ydych yn byw yn unrhyw un o’r ardaloedd hyn, peidiwch â rhoi eich sbwriel allan ar gyfer casgliadau dydd Gwener (llwybrau casglu 106, 107, 176, 178). Gallwch wirio unrhyw amhariadau i’r gwasanaeth isod.
Rhannwch y neges hon â’ch cymdogion ac unrhyw un nad ydynt ar-lein.
10/12/2021 | Llwybr 176 – Llambed, Cellan, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanddewi Brefi | Bagiau Clir Ailgylchu a Gwastraff Bwyd | Ymgeisio i’w casglu ar ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr 202 |
10/12/2021 | Llwybr 176 – Llambed, Cellan, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanddewi Brefi | Gwydr a Bagiau Du | Ymgeisio i’w casglu ar ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr 2021 |
This page is also available in: English