
Diolch i bawb a ddaeth ynghyd i’r pentref i helpu gyda’r tacluso a’r addurno ar gyfar Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron ym mis Awst. Mae’r pentref yn edrych yn dda ac mae’r arddangosfa o Orsedd y Bwganod Brain yn werth eu gweld.
Thank you for all of your hard work tidying and decorating the village for the National Eisteddfod that will be held in Tregaron in August. The village looks great and the display of The Orsedd Scarecrows are a feast for the eyes.
Ffynnon Dolgam
Cyfrannu mae i bawb yn rhad
Mae’n hynod o drugarog
Mae yn diwallu’r weddw dlawd
R’un fath â’r gŵr cyfoethog.
– D. J. Jones, Brynawel.Ofn (cerdd cadair Llandybie 1944)
Petrus fy nhaith, pa fodd y gobeithiaf?
A ddaw’r goncwest wedi’r ornest chwyrnaf?
Y Prifardd D Lloyd Jenkins (Moelallt)Machlud Haul
Englyn Duw i derfyn dydd
Yw harddwch lliwiau’r hwyrddydd
– Mrs Eluned Ellis Jones.Dŵr Nant Cwmbrefi
Cerdd o galon hen y ddaer
Bythol ffres fel cân y llwyn.
– Dai WilliamsY Llwybrau Gynt
Caf nodded y mynyddoedd
A Chraig y Foelallt draw
syn dal o hyd i warchod
y pentref bach is-lawr
– Ben. W. Davies, Ty Mawr.Y Milwr Gwyn
Sefyll wnaeth flynyddoedd mawr
yn brudd a dwys, ac wrth bob un
mae’n tystion drist am dywyll awr
yn hanes dyn.
– Dyfnallt Morgan.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn: Cymraeg