Bethesda Chapel
Minister – Rev. Carwyn Arthur. Calvinist Methodist Chapel, Presbyterian Church of Wales.
Welsh medium services. A service is held every Sunday at 10am. You are welcome.
Ceredigion and North Pembrokeshire Presbytery.
Capel Bethesda
10am
Dydd Sul / Sunday
Rhagfyr 12 December
Carolau Nadolig / Christmas Carols
Croeso i bawb./ Everyone welcome
30/05/2021
Myfyrdod ar Genesis 2:17
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw:
161
Gras, O’r fath beraidd sain,
i’m clust hyfrydlais yw:
gwna hwn i’r nef ddatseinio byth,
a’r ddaear oll a glyw.
Gras gynt a drefnodd ffordd
i gadw euog fyd;
llaw gras a welir ymhob rhan
o’r ddyfais hon i gyd.
Gras ddaeth â’m traed yn ôl
i lwybrau’r nefoedd lân;
rhydd gymorth newydd im bob awr
i fyned yn y blaen.
Gras a gorona’r gwaith
draw mewn anfarwol fyd;
a chaiff y clod a’r moliant byth
gan luoedd nef ynghyd.
PHILIP DODDRIDGE, 1702-51 cyf. GOMER, 1773-1825
Yr ail emyn yw:
762
Am fod fy Iesu’n fyw,
byw hefyd fydd ei saint;
er gorfod dioddef poen a briw,
mawr yw eu braint:
bydd melus glanio draw
‘n ôl bod o don i don,
ac mi rof ffarwel maes o law
i’r ddaear hon.
Ac yna gwyn fy myd
tu draw i’r byd a’r bedd:
caf yno fyw dan foli o hyd
mewn hawddfyd hedd
yng nghwmni’r nefol Oen
heb sôn am bechod mwy,
ond canu am ei ddirfawr boen
byth gyda hwy.
JOHN THOMAS, 1730-1804?
23/05/2021
Myfyrdod Sul y Pentecost
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
568
O anfon di yr Ysbryd Glân
yn enw Iesu mawr,
a’i weithrediadau megis tân
O deued ef i lawr.
Yr emyn cyntaf yw:
243
Bywha dy waith, O Arglwydd mawr,
dros holl derfynau’r ddaear lawr
drwy roi tywalltiad nerthol iawn
o’r Ysbryd Glân a’i ddwyfol ddawn.
Bywha dy waith o fewn ein tir,
arddeliad mawr fo ar y gwir;
mewn nerth y bo’r Efengyl lawn,
er iachawdwriaeth llawer iawn.
Bywha dy waith o fewn dy
a gwna dy weision oll yn hy:
gwisg hwynt â nerth yr Ysbryd Glân,
a’th air o’u mewn fo megis tân.
Bywha dy waith, O Arglwydd mawr,
yn ein calonnau ninnau nawr,
er marwhau pob pechod cas,
a chynnydd i bob nefol ras.
MINIMUS, 1808-80
Yr ail emyn yw:
593
Ddiddanydd anfonedig nef,
fendigaid Ysbryd Glân,
hiraethwn am yr awel gref
a’r tafod tân.
Erglyw ein herfyniadau prudd
am brofi o’th rad yn llawn,
gwêl a oes ynom bechod cudd
ar ffordd dy ddawn.
Cyfranna i’n heneidiau trist
orfoledd meibion Duw,
a dangos inni olud Crist
yn fodd i fyw.
Am wanwyn Duw dros anial gwyw
dynolryw deffro’n llef,
a dwg yn fuan iawn i’n clyw
y swn o’r nef.
Rho’r hyder anorchfygol gynt
ddilynai’r tafod tân;
chwyth dros y byd fel nerthol wynt,
O Ysbryd Glân.
GWILI, 1872-1936
16/05/2021
Myfyrdod ar Luc 19:1-10
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd. Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw:
1
Cydganwn foliant rhwydd
i’n Harglwydd, gweddus yw;
a nerth ein hiechyd llawenhawn,
mawr ydyw dawn ein Duw.
O deuwn oll ynghyd
yn unfryd ger ei fron,
offrymwn iddo ddiolch clau
mewn salmau llafar, llon.
Cyduned tonnau’r môr
eu mawl i’n Iôr o hyd,
rhoed y ddaear fawr a’i phlant
ogoniant iddo i gyd.
O plygwn bawb ei lin
o flaen ein Brenin mawr;
Addolwn ef, ein dyled yw,
‘rym arno’n byw bob awr.
GWILYM HIRAETHOG, 1802-83
Yr ail emyn yw:
182
Dyma iachawdwriaeth hyfryd
wedi ei threfnu gan fy Nuw,
ffordd i gadw dyn colledig,
balm i wella dynol-ryw:
dyma ddigon
i un euog fel myfi.
Wele foroedd o fendithion,
O am brofi eu nefol flas:
ni bydd diwedd byth ar lawnder
iachawdwriaeth dwyfol ras;
dyma ddigon,
gorfoledda f’enaid mwy.
WILLIAM JONES, 1784-1847
09/05/2021
Annwyl Bawb,
Os Duw a’i myn, bydd gwasanaeth y Sul hwn ym Methesda, Llanddewi Brefi, a Bwlchgwynt am 10 o’r gloch y bore. Gan fod drysau’r ddau gapel yma ar agor a chroeso i aelodau o gapeli eraill yr ofalaeth fynd i un o’r gwasanaethau hynny, os ydynt yn dymuno, nid wyf wedi paratoi myfyrdod ar gyfer Mai 9.
Fel darpariaeth ychwanegol ar gyfer y Sul, anfonaf i chi y ddolen isod i fideo o neges gan y Parchg Catrin Roberts (un o weinidogion ein henwad sydd wedi ymddeol) a recordiwyd gan y Parchg Gwyn Rhydderch, Penaeth Prosiectau a Chyfathrebu ein henwad, cyn yr argyfwng. Os byddwch yn gwrando ar neges y Parchg. Catrin Roberts efallai wrth i’r fideo gychwyn bydd angen i chi glicio ar icon y speaker i gael y sain. Byddaf yn llunio myfyrdod ar gyfer Mai 16.
Dymunaf Sul bendithiol i bawb ohonoch.
Carwyn
https://www.facebook.com/EBCPCW/videos/1246494442187890/
Services will restart at Capel Bethesda, Llanddewi Brefi, on the second and fourth Sunday of the month at 10am on May 9th. Our minister, y Parch Carwyn Arthur will officiate at all these services. You are welcome. Please note the importance of wearing a mask and abiding by present laws and guidelines.
02/05/2021
There will be a communion service in Bwlchgwynt this Sunday at 10am and services will resume at Bethesda, Llanddewi Brefi, on May 9.
Myfyrdod ar Jeremeia 4:3
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw:
163
Cyduned Seion lân
mewn cân bereiddia’i blas
o fawl am drugareddau’r Iôn,
ei roddion ef a’i ras.
Ble gwelir cariad fel
ei ryfedd gariad ef?
Ble bu cyffelyb iddo erioed?
Rhyfeddod nef y nef!
Fe’n carodd cyn ein bod,
a’i briod Fab a roes,
yn ôl amodau hen y llw,
i farw ar y groes.
Gwnaeth Iesu berffaith Iawn
brynhawn ar Galfarî:
yn ei gyfiawnder pur di-lyth
mae noddfa byth i ni.
IAGO TRICHRUG, 1779-1844
Yr ail emyn yw:
49
Diolch i ti, yr hollalluog Dduw,
am yr Efengyl sanctaidd.
Halelwia! Amen.
Pan oeddem ni mewn carchar tywyll, du
rhoist in oleuni nefol.
Halelwia! Amen.
O aed, O aed yr hyfryd wawr ar led,
goleued ddaear lydan!
Halelwia! Amen.
Y SALMYDD CYMREIG, 1840 priodolir i DAVID CHARLES, 1762-1834
25/04/2021
Myfyrdod ar Luc 14:15 24
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
‘Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr.’ Salm 19:14
Yr emyn cyntaf yw:
331
Pa le, pa fodd dechreuaf
foliannu’r Iesu mawr?
Olrheinio’i ras ni fedraf,
mae’n llenwi nef a llawr:
anfeidrol ydyw’r Ceidwad,
a’i holl drysorau’n llawn;
diderfyn yes ei gariad,
difesur yes ei ddawn.
Trugaredd a gwirionedd
yng Nghrist sy nawr yn un,
cyfiawnder a thangnefedd
ynghyd am gadw dyn:
am Grist a’i ddioddefiadau,
rhinweddau marwol glwy’,
y seinir pêr ganiadau
i dragwyddoldeb mwy.
O diolch am Gyfryngwr,
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O am gael ei adnabod,
fy Mhriod i a’m rhan,
fy ngwisgo â’i gyfiawnder
yn hardd gerbron y Tad,
a derbyn o’i gyflawnder
wrth deithio’r anial wlad.
ROGER EDWARDS, 1811-86
Yr ail emyn yw:
271
Hyfryd lais Efengyl hedd
sydd yn galw pawb i’r wledd;
mae gwahoddiad llawn at Grist,
oes, i’r tlawd newynog, trist;
pob cyflawnder ynddo cewch;
dewch â chroeso, dlodion, dewch.
Cyfod, Haul Cyfiawnder llon,
cyfod dros y ddaear hon;
aed dy lewyrch i bob gwlad,
yn dy esgyll dwg iachâd;
dos ar gynnydd, nefol ddydd,
doed y caethion oll yn rhydd.
Iesu gaiff y clod i gyd,
ymaith dug bechodau’r byd:
rhoes ei hunan yn ein lle,
bellach, beth na rydd efe?
Halelwia! llawenhewch,
dewch, moliennwch, byth na thewch.
PEDR FARDD, 1775-1845
18/04/2021
Myfyrdod ar Genesis 4:1-8
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw:
488
Am Iesu Grist a’i farwol glwy’
boed miloedd mwy o sôn,
a dweded pob rhyw enaid byw
mai teilwng ydyw’r Oen.
Fe ddaeth yn dlawd, etifedd nef,
i ddioddef marwol boen;
myneged pob creadur byw
mai teilwng ydyw’r Oen.
Y llu angylaidd draetha nawr
am rinwedd mawr ei boen;
cydganed pawb o ddynol-ryw
mai teilwng ydyw’r Oen.
Aed sôn am waed yr Oen ar led
y ddaear faith i gyd;
gwybodaeth bur a chywir gred
ymdaened dros y byd.
THOMAS JONES, 1769-1850
Yr ail emyn yw:
303
Wrth droi fy ngolwg yma i lawr
i gyrrau’r holl greadigaeth fawr,
gwrthrych ni wêl fy enaid gwan
ond Iesu i bwyso arno’n rhan.
Dewisais ef, ac ef o hyd
ddewisaf mwy tra bwy’n y byd;
cân gwynfyd ddaeth i’m henaid tlawd –
cael Brenin nefoedd imi’n Frawd.
Fy nghysur oll oddi wrtho dardd;
mae’n Dad, mae’n Frawd, mae’n Briod hardd;
f’Arweinydd llariaidd tua thref,
f’Eiriolwr cyfiawn yn y nef.
Ef garaf bellach tra bwyf byw,
uwch creaduriaid o bob rhyw;
er gwaethaf daer ac uffern drist,
f’Anwylyd i fydd Iesu Grist.
WILLIAM WILLLAMS, 1717-91
11/04/2021
Myfyrdod ar Ioan 20:24-31
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni;
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni:
plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.
Yr emyn cyntaf yw rhif 482:
Ai am fy meiau i
dioddefodd Iesu mawr
pan ddaeth yng ngrym ei gariad ef
o entrych nef i lawr?
Cyflawnai’r gyfraith bur,
cyfiawnder gafodd Iawn,
a’r ddyled fawr, er cymaint oedd,
a dalodd ef yn llawn.
Dioddefodd angau loes
yn ufudd ar y bryn,
a’i waed a ylch y galon ddu
yn lân fel eira gwyn.
Bu’n angau i’n hangau ni
wrth farw ar y pren,
thrwy ei waed y dygir llu,
drwy angau, i’r nefoedd wen.
Pan grymodd ef ei ben
wrth farw yn ein lle,
agorodd ffordd, pan rwygai’r llen,
i bur drigfannau’r ne’.
Gorchfygodd uffern ddu,
gwnaeth ben y sarff yn friw;
o’r carchar caeth y dygir llu,
drwy ras, i deulu Duw.
JOHN ELIAS, 1774-1841
Yr ail emyn yw 189:
O am gael ffydd i edrych
gyda’r angylion fry
i drefn yr iachawdwriaeth,
dirgelwch ynddi sy:
dwy natur mewn un person
yn anwahanol mwy,
mewn purdeb heb gymysgu
yn eu perffeithrwydd hwy.
O f’enaid, gwêl addasrwydd
y person dwyfol hwn,
dy fywyd mentra arno
a bwrw arno’th bwn;
mae’n ddyn i gydymdeimlo
â’th holl wendidau i gyd,
mae’n Dduw i gario’r orsedd
ar ddiafol, cnawd a byd.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
Gwasanaeth Sul y Pasg, Ebrill 4, am 10 o’r gloch y bore. Bydd y gwasanaeth hwn yn Wasanaeth Cymundeb.
Join Zoom Meeting
https://us04web.zoom.us/j/74346210426?pwd=N0pyNzdJdnpEdEVRZ1ZmdlNwS3FpUT09
Meeting ID: 743 4621 0426
Passcode: z6m0ia
04/04/2021
Myfyrdod Sul y Pasg 2021
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr. Salm 19:14
Yr emyn cyntaf yw rhif 549
Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd,
fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd,
fe gododd y Ceidwad, hoed moliant i Dduw,
fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw!
Cyhoedder y gair, atseinier y sôn,
a thrawer y salm soniarus ei thôn,
dywedwch wrth Seion alarus a gwyw
am sychu ei dagrau, mae’r Iesu yn fyw!
NANTLAIS, 1874-195
Yr ail emyn yw (Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd): Rhif 668
Er gwaetha’r maen a’r gwylwyr
Cyfododd Iesu’n fyw;
Daeth yn ei law alluog
 phardwn dynol-ryw;
Gwnaeth etifeddion uffern
Yn etifeddion nef;
Fy enaid byth na thawed
 chanu iddo ef.
Fe’i gwelir ar y cwmwl
Yn dyfod cyn bo hir,
A’i ddedwydd waredigion,
Ffrwyth ei ddioddefaint pur:
Bydd gogledd, de a dwyrain,
Gorllewin faith, yn un,
Oll yn eu gynau gwynion
Yn moli Mab y Dyn.
M.R.
28/03/2021
Myfyrdod Sul y Blodau
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw 238
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un,
“Hosanna!”, gwaedda’r dorf gytûn;
d’anifail llwm ymlwybra ‘mlaen
a phalmwydd dan ei draed ar daen.
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Frawd,
yn wylaidd ar dy farwolrawd:
i goncro pechod, codi’r graith,
a thynnu colyn angau caeth.
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Grist,
yr engyl oll sy’n syllu’n drist
o’r nefoedd mewn rhyfeddod mawr:
fe deithi at d’angheuol awr.
Ymlaen, O Fab y Dyn di-fraw,
mae’r olaf ffyrnig frwydyr draw;
y Tad o uchder gorsedd nef
sy’n disgwyl ei Eneiniog ef.
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Oen,
â gwylaidd rwysg ar lwybrau poen;
‘n ôl gwyro pen dan farwol glwy’,
O Grist, mewn grym teyrnasa mwy.
H. H. MILMAN, 1791-1868
cyf. HYWEL M. GRIFFITHS
Yr ail emyn yw 245
Yr Iesu a deyrnasa’n grwn
o godiad haul hyd fachlud hwn;
ei deyrnas â o fôr i fôr
tra byddo llewyrch haul a lloer.
Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith,
i’w gariad rhoddant foliant maith;
babanod ifainc, llon eu llef
yn fore a’i clodforant ef.
Lle y teyrnaso, bendith fydd;
y caeth a naid o’i rwymau’n
rhydd, y blin gaiff fythol esmwythâd,
a’r holl rai rheidus, gymorth rhad.
Rhoed pob creadur, yn ddi-lyth,
neilltuol barch i’r Brenin byth;
angylion, molwch ef uwchben,
a’r ddaear dweded byth, Amen.
ISAAC WATTS, 1674-1748
cyf. DAFYDD JONES, 1711-77
21/03/2021
Myfyrdod ar Ioan 1:29
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
601
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni;
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni:
plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.
DANIEL IVERSON, 1890-1977 cyf. IDDO EF
Yr emyn cyntaf yw:
363
Cyduned nef a llawr
i foli’n Harglwydd mawr
mewn hyfryd hoen;
clodforwn, tra bo chwyth,
ei ras a’i hedd di-lyth,
ac uchel ganwn byth:
“Teilwng yw’r Oen.”
Tra dyrchaif saint eu cân
o gylch yr orsedd lân,
uwch braw a phoen,
O boed i ninnau nawr,
drigolion daear lawr,
ddyrchafu’r enw mawr:
“Teilwng yw’r Oen.”
Molianned pawb ynghyd
am waith ei gariad drud,
heb dewi â sôn;
anrhydedd, parch a bri
fo i’n Gwaredwr ni
dros oesoedd maith di-ri’:
“Teilwng yw’r Oen!”
JAMES ALLEN, 1734-1804
efel. ISAAC CLARKE, 1824-75
Yr ail emyn yw:
312
O nefol addfwyn Oen,
sy’n llawer gwell na’r byd,
a lluoedd maith y nef
yn rhedeg arno’u bryd,
dy ddawn a’th ras a’th gariad drud
sy’n llanw’r nef, yn llanw’r byd.
Noddfa pechadur trist
dan bob drylliedig friw
a phwys euogrwydd llym
yn unig yw fy Nuw;
‘does enw i’w gael o dan y nef
yn unig ond ei enw ef.
Ymgrymed pawb i lawr
i enw’r addfwyn Oen,
yr enw mwyaf mawr
erioed a glywyd sôn:
y clod, y mawl, y parch a’r bri
fo byth i enw’n Harglwydd ni.
WILLIAM WILLIAMS’ 1717-91
14/03/2021
Gwasanaeth cymundeb dros zoom:
Gair i’ch hatgoffa y cynhelir gwasanaeth cymundeb i’r Ofalaeth am 10 o’r gloch y bore. Dyma’r ddolen unwaith eto ar gyfer y cyfarfod hwnnw:
https://us04web.zoom.us/j/72245121246?pwd=UmwxSlFHdjgwNlU3OHU3V2FXeHV3UT09
Meeting ID: 722 4512 1246
Passcode: DnB5rg
Myfyrdod ar Genesis 3:20
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr. Salm 19:14
Yr emyn cyntaf yw rhif 64:
Tydi sy deilwng oll o’m cân,
fy Nghrëwr mawr a’m Duw;
dy ddoniau di o’m hamgylch maent
bob awr yr wyf yn byw.
Mi glywa’r haul a’r lloer a’r sêr
yn datgan dwyfol glod;
tywynnu’n ddisglair yr wyt ti
drwy bopeth sydd yn bod.
O na foed tafod dan y rhod
yn ddistaw am dy waith;
minnau fynegaf hyd fy medd
dy holl ddaioni maith.
Diolchaf am dy gariad cu
yn estyn hyd fy oes;
diolchaf fwy am Un a fu
yn gwaedu ar y groes.
Diolchaf am gysuron gwiw
wyf heddiw’n eu mwynhau;
diolchaf fwy am ddoniau sy’n
oes oesoedd i barhau.
DAVID CHARLES, 1803-80
Yr ail emyn yw rhif 522:
522
Yn Eden, cofiaf hynny byth,
bendithion gollais rif y gwlith;
syrthiodd fy nghoron wiw.
Ond buddugoliaeth Calfarî
enillodd hon yn ôl i mi:
mi ganaf tra bwyf byw.
Ffydd, dacw’r fan, a dacw’r pren
yr hoeliwyd arno D’wysog nen
yn wirion yn fy lle;
y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un,
cans clwyfwyd dau, concwerodd un,
a Iesu oedd efe.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
07/03/2021
Myfyrdod ar Luc 18:9 i 14
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw rhif 535
‘Does destun gwim i’m cân
ond cariad f’Arglwydd glân
a’i farwol glwy’;
griddfannau Calfarî
ac angau Iesu cu
yw ‘nghân a’m bywyd i:
Hosanna mwy!
Caniadau’r nefol gôr
sydd oll i’m Harglwydd Iôr
a’i ddwyfol glwy’;
y brwydrau wedi troi,
gelynion wedi ffoi
sy’n gwneud i’r dyrfa roi
Hosanna mwy!
O wyrthiau’i gariad ef!
Ni all holl ddoniau’r nef
eu dirnad hwy;
mae hyn i mi’n beth syn:
i riddfan pen y bryn
droi’n gân i mi fel hyn:
Hosanna mwy!
ALUN, 1797-1840
Yr ail emyn yw rhif 175
O’th flaen, O Dduw, ‘rwy’n dyfod
gan sefyll o hirbell;
pechadur yw fy enw,
ni feddaf enw gwell;
trugaredd ‘rwy’n ei cheisio,
a’i cheisio eto wnaf,
trugaredd imi dyro,
‘rwy’n marw onis caf.
Pechadur wyf, mi welaf,
O Dduw, na allaf ddim;
‘rwy’n dlawd, ‘rwy’n frwnt, ‘rwy’n euog,
O bydd drugarog im;
‘rwy’n addef nad oes gennyf,
drwy ‘mywyd hyd fy medd,
o hyd ond gweiddi, “Pechais!”
Nid wyf yn haeddu hedd.
Mi glywais gynt fod Iesu,
a’i fod ef felly nawr,
yn derbyn publicanod
a phechaduriaid mawr;
O derbyn, Arglwydd, derbyn
fi hefyd gyda hwy,
a maddau’r holl anwiredd
heb gofio’r camwedd mwy.
THOMAS WILLIAM, 1761-1844
28/02/2021
Myfyrdod Gŵyl Ddewi
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
yr entrada yw:
601
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni;
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni:
plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.
DANIEL IVERSON, 1890-1977 cyf. IDDO EF
Yr emyn cyntaf yw:
827
Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion,
dy gyfiawnder fyddo’i grym:
cadw hi rhag llid gelynion,
rhag ei beiau’n fwy na dim:
rhag pob brad, nefol Dad,
taena d’adain dros ein gwlad.
Yma mae beddrodau’n tadau,
yma mae ein plant yn byw;
boed pob aelwyd dan dy wenau,
a phob teulu’n deulu Duw:
rhag pob brad, nefol Dad,
cadw di gartrefi’n gwlad.
Gwna’n Sabothau’n ddyddiau’r nefoedd
yng ngoleuni d’eiriau glân;
dyro’r gwlíth i’n cymanfaoedd,
gwna ein crefydd fel ein cân:
nefol Dad, boed mawrhad
ar d’Efengyl yn ein gwlad.
Yr ail emyn yw:
815
Dduw Iôr ein tadau, nefol Dad,
O achub a sancteiddia’n gwlad;
cysegra’n dyheadau ni
geisio dy ogoniant di.
Ein twr a’n tarian ar ein taith
a’n t’wysog fuost oesoedd maith;
rhoist yn ein calon ddwyfol dân
ac yn ein genau nefol gân.
O atal rwysg ein gwamal fryd
a gwared ni rhag twyll y byd;
â’th ras, ein calon cadarnha,
a dyro brawf o’th ‘wyllys da.
O Ysbryd Glân, na foed i ni
oleuni ond d’oleuni di,
ac arwain bobloedd yn gytûn
ogoneddu Mab y Dyn.
O na chaem weld y rhyfedd ddydd
i ninnau fynd o’n rhwymau’n rhydd
ac uno gyda nef a llawr
ym moliant ei ddyrchafael mawr.
J. T. JOB, 1867-1938
21/02/2021
Myfyrdod ar Actau 26:24 i 32
yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd. Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw rhif 88 yng Nghaneuon Ffydd:
Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy waith
yn llunio bydoedd mawrion
y greadigaeth faith;
wrth feddwl am dy allu
yn cynnal yn eu lle
drigfannau’r ddaear isod
a phreswylfeydd y ne’.
Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy ffyrdd
yn llywodraethu’n gyson
dros genedlaethau fyrdd;
wrth feddwl am ddoethineb
dy holl arfaethau cudd,
a’u nod i ddwyn cyfiawnder
o hyd i olau dydd.
Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy ras
yn trefnu ffordd i’n ‘gwared
o rwymau pechod cas,
wrth feddwl am y gwynfyd
sydd yna ger dy fron
i bawb o’r gwaredigion,
‘nôl gado’r ddaear hon.
DEWI MÔN, 1836-1907
Yr ail emyn yw rhif 529 yng Nghaneuon Ffydd:
Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn,
enynnodd cyn oesoedd o fewn iddo’i hun;
ni chwilia cerwbiaid, seraffiaid na saint
ehangder na dyfnder nac uchder ei faint.
Rhyfeddod angylion yng nghanol y nef,
rhyfeddod galluoedd a thronau yw ef;
diffygia’r ffurfafen a’i sêr o bob rhyw
cyn blinaf fi ganu am gariad fy Nuw.
Fy enaid, gwêl gariad yn fyw ar y pren,
ac uffern yn methu darostwng ei ben;
er marw fy Iesu, er hoelio fy Nuw,
parhaodd ei gariad drwy angau yn fyw.
O ryfedd ddoethineb – rhyfeddod ei hun –
a ffeindiai’r fath foddion i brynu’r fath un;
fy Iesu yn marw, fy Iesu oedd Dduw,
yn marw ar groesbren i minnau gael byw.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
14/02/2021
Myfyrdod ar 1 Thesaloniaid 1:3
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
Yr entrada yw:
Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr. Salm 19:14
Yr emyn cyntaf yw:
687
Dal fi Nuw, dal fi i’r lan,
‘n enwedig dal fi lle ‘rwy’ wan;
dal fi yn gryf nes mynd i maes
o’r byd sy’n llawn o bechod cas.
Gwna fi’n gyfoethog ymhob dawn,
gwna fi fel halen peraidd iawn,
na fi fel seren olau wiw
‘n disgleirio yn y byd ‘rwy’n byw.
Dysg im, fy Nuw, dysg im pa fodd
i ddweud a gwneuthur wrth dy fodd;
dysg im ryfela a’r ddraig heb goll,
a dysg im goncro ‘mhechod oll.
Tra caffwyf rodio’r ddaear hon
rho dy dangnefedd dan mron;
ac yn y diwedd moes dy law,
i’m dwyn i mewn i’r nefoedd draw.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
Yr ail emyn yw:
693
O Iesu, Haul Cyfiawnder glân,
llanw mron a’th nefol dân;
disgleiria ar fy enaid gwan
nes dod o’r anial fyd i’r lan.
Enynna ‘nghalon, Iesu cu,
yn dân o gariad atat ti,
a gwna fi’n wresog yn dy waith
tra byddaf yma ar nhaith.
A gwna fy nghalon dywyll i
yn olau drwy d’oleuni di;
gwasgara’r holl gymylau i gyd
sy’n cuddio gwedd dy wynebpryd.
AZARIAH SHADRACH, 1774-1844
07/02/2021
Myfyrdod ar Luc 4:16-30
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
Yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw:
489
‘Does neb ond ef, fy Iesu hardd,
a ddichon lanw ‘mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
o’i ddirfawr angau drud.
‘Does dim yn gwir ddifyrru f’oes
helbulus yn y byd
ond golwg mynych ar y groes
lle talwyd Iawn mewn pryd.
Mi welaf le mewn marwol glwy’
i’r euog guddio’i ben,
ac yma llechaf nes mynd drwy
bob aflwydd is y nen.
WILLIAM EDWARDS, 1773-1853
Yr ail emyn yw:
49
Diolch i ti, yr hollalluog Dduw,
am yr Efengyl sanctaidd.
Halelwia! Amen.
Pan oeddem ni mewn carchar tywyll, du
rhoist in oleuni nefol.
Halelwia! Amen.
O aed, O aed yr hyfryd wawr ar led,
goleued ddaear lydan!
Halelwia! Amen.
Y SALMYDD CYMREIG, 1840 priodolir i DAVID CHARLES, 1762-1834
31/01/2021
Myfyrdod ar 1Pedr 2:4 8
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
Yr entrada yw:
601
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni;
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni:
plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.
DANIEL IVERSON, 1890-1977 cyf. IDDO EF
Yr emyn cyntaf yw:
370
‘Does gyffelyb iddo ef
ar y ddaear, yn y nef;
trech ei allu, trech ei ras
na dyfnderau calon gas,
a’i ffyddlondeb sydd yn fwy
nag angheuol, ddwyfol glwy’.
Caned cenedlaethau’r byd
am ei enw mawr ynghyd;
aed i gyrrau pella’r ne’,
aed i’r dwyrain, aed i’r de;
bloeddied moroedd gyda thir
ddyfnder iachawdwriaeth bur.
Na foed undyn is y rhod
heb ddatseinio i maes ei glod;
na foed neb is awyr las
heb gael prawf o’i nefol ras;
doed y ddaear fawr yn gron,
yfent ddwr y ffynnon hon
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
24/01/2021
Myfyrdod ar Genesis 3:21
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
Yr entrada yw:
Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr. Salm 19:14
Yr emyn cyntaf yw rhif 94 yn y Llyfr Emynau a Thonau
Cyduned Seion lân
Mewn cân bereiddia’i blas
O fawl am drugareddau’r Iôn,
Ei roddion Ef a’i ras.
P’le gwelir cariad fel
Ei ryfedd gariad ef?
P’le bu cyffelyb iddo ’rioed?
Rhyfeddod nef y nef!
Fe’n carodd cyn ein bod,
A’i briod Fab a roes,
Yn ôl amodau hen y llw,
I farw ar y groes.
Gwnaeth Iesu berffaith Iawn
Brynhawn ar Galfarî:
Yn ei gyfiawnder pur di-lyth
Mae noddfa byth i ni.
Anfeidrol ydyw gwerth
A rhin ei aberth mawr
I achub rhyw aneirif lu
O deulu gwael y llawr.
Y rhai, yn berffaith lân,
A beraidd gân i gyd,
I’r bendigedig unig Oen
Yn iach o boen y byd.
Js. H.
Yr ail emyn yw rhif 331 yng Nghaneuon Ffydd:
Pa le, pa fodd dechreuaf
foliannu’r Iesu mawr?
Olrheinio’i ras ni fedraf,
mae’n llenwi nef a llawr:
anfeidrol ydyw’r Ceidwad,
a’i holl drysorau’n llawn;
diderfyn yes ei gariad,
difesur yes ei ddawn.
Trugaredd a gwirionedd
yng Nghrist sy nawr yn un,
cyfiawnder a thangnefedd
ynghyd am gadw dyn:
am Grist a’i ddioddefiadau,
rhinweddau marwol glwy’,
y seinir pêr ganiadau
i dragwyddoldeb mwy.
O diolch am Gyfryngwr,
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O am gael ei adnabod,
fy Mhriod i a’m rhan,
fy ngwisgo â’i gyfiawnder
yn hardd gerbron y Tad,
a derbyn o’i gyflawnder
wrth deithio’r anial wlad.
ROGER EDWARDS, 1811-86
17/01/2021
Myfyrdod ar Ioan 4:44-54
Yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw rhif 189
O am gael ffydd i edrych
gyda’r angylion fry
i drefn yr iachawdwriaeth,
dirgelwch ynddi sy:
dwy natur mewn un person
yn anwahanol mwy,
mewn purdeb heb gymysgu
yn eu perffeithrwydd hwy.
O f’enaid, gwêl addasrwydd
y person dwyfol hwn,
dy fywyd mentra arno
a bwrw arno’th bwn;
mae’n ddyn i gydymdeimlo
â’th holl wendidau i gyd,
mae’n Dduw i gario’r orsedd
ar ddiafol, cnawd a byd.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
Yr ail emyn yw rhif 350:
Yr Iesu’n ddi-lai
a’m gwared o’m gwae;
achubodd fy mywyd,
maddeuodd fy mai;
fe’m golchodd yn rhad,
do’n wir, yn ei waed,
gan selio fy mhardwn
rhoes imi ryddhad.
Fy enaid i sydd
yn awr, nos a dydd,
am ganmol fy Iesu
a’m rhoddes yn rhydd:
ffarwel fo i’r byd
a’i bleser ynghyd;
ar drysor y nefoedd
fe redodd fy mryd.
‘Rwy’n gweled bob dydd
mai gwerthfawr yw ffydd,
pan elwy’ i borth angau
fy angor i fydd:
mwy gwerthfawr im yw
na chyfoeth Periw,
mwy diogel i’m cynnal
ddydd dial ein Duw.
MORGAN DAFYDD, m. 1762
10/01/2021
Myfyrdod ar adar yr ardd Gofalaeth Caron
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
Yr entrada yw:
Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr. Salm 19:14
Yr emyn cyntaf yw rhif 4 yng Nghaneuon Ffydd:
Mae’r nefoedd faith uwchben
yn datgan mawredd Duw,
mae’r haul a’r lloer a’r sêr i gyd
yn dweud mai rhyfedd yw.
Fe draetha dydd i ddydd
a nos i nos o hyd
ymhob rhyw iaith, ymhob rhyw le,
am Grëwr doeth y byd.
Ond yn ei gyfraith lân
fe’i dengys Duw ei hun
yn Dduw mewn cymod drwy ei Fab
â gwael, golledig ddyn.
O boed fy ngeiriau oll
a’m calon, O fy Nuw,
yn gymeradwy ger dy fron
tra bwy’n y byd yn byw.
EVAN GRIFFITHS, 1795-1873
Yr ail emyn yw rhif 88 yng Nghaneuon Ffydd:
Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy waith
yn llunio bydoedd mawrion
y greadigaeth faith;
wrth feddwl am dy allu
yn cynnal yn eu lle
drigfannau’r ddaear isod
a phreswylfeydd y ne’.
Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy ffyrdd
yn llywodraethu’n gyson
dros genedlaethau fyrdd;
wrth feddwl am ddoethineb
dy holl arfaethau cudd,
a’u nod i ddwyn cyfiawnder
o hyd i olau dydd.
Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy ras
yn trefnu ffordd i’n ‘gwared
o rwymau pechod cas,
wrth feddwl am y gwynfyd
sydd yna ger dy fron
i bawb o’r gwaredigion,
‘nôl gado’r ddaear hon.
DEWI MÔN, 1836-1907
03/01/2021
Myfyrdod Sul cyntaf y flwyddyn
Os byddwch yn gwrando ar y ffeil mp3:
Yr entrada yw:
Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd. Ioan 4:23
Yr emyn cyntaf yw rhif 92:
Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron,
ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon;
trwy blygion tywyll ei dyfodol hi,
Arweinydd anffaeledig, arwain fi.
Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith?
Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith.
Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw?
Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law.
Ffydd, gobaith, cariad – doniau pennaf gras
addurno f’oes wrth deithio’r anial cras;
rho imi beunydd fyw’n d’oleuni di:
Ddihenydd sanctaidd, tyred, arwain fi.
Heneiddia’r greadigaeth, palla dyn,
diflanna oesoedd byd o un i un;
er cilio popeth, un o hyd wyt ti:
y digyfnewid Dduw, O arwain fi.
T. J. PRITCHARD, 1853-1918
Yr ail emyn yw rhif 71:
71
Yn dy law y mae f’amserau,
ti sy’n trefnu ‘nyddiau i gyd,
ti yw lluniwr y cyfnodau,
oesoedd a blynyddoedd byd;
rho dy fendith
ar y flwyddyn newydd hon.
Yn dy law y mae f’amserau,
oriau’r bore a’r prynhawn,
ti sy’n rhoddi y tymhorau,
amser hau a chasglu’r grawn;
gad im dreulio
oriau’r flwyddyn yn dy waith.
Yn dy law y mae f’amserau,
amser gwynfyd, amser croes,
amser iechyd digymylau
a chysgodion diwedd oes;
gad im mwyach
dreulio ‘nyddiau yn dy law.
NANTLAIS, 1874-1959
Some members of Capel Bethesda on their visit to Mary Jones’ World with the minister, Rev Carwyn Arthur. Here at Coleg y Bala before visiting Capel Tegid.
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn: Cymraeg