Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Nos Lun 15 Mai 2023 am 8:30yh, yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd. Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda. Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
5) Cadarnhau cofnodion 11 Ebrill 2023
6) Materion yn codi o’r cofnodion.
7) Adroddiad ariannol.
a) Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 30 Ebrill 2023
b) Awdurdodi taliadau:
i) Claddedigaethau
ii) Ad-dalu taliadau a wnaed gan aelodau.
c) Taliadau staff a chyfrinachol
d) Taliadau cylchol:
i) BT – ffôn Neuadd a band eang
ii) Ffioedd banc
e) Taliadau a dderbyniwyd:
i) Praesept 23-24: rhandaliad cyntaf.
ii) Grant Mynwent yn ôl Gwariant 2021/22.
8) Gohebiaeth (copïau wedi’u hanfon ymlaen at yr aelodau).
a) Archwilio Cymru
Gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer archwiliad 2022-23 – Ceredigion
b) Cyngor Sir Gar: FW: Digwyddiad Rhanddeiliaid Afon
c)Bwrdd Prosiect Cylch Caron
i) Agenda: Cyfarfod Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron (02/05/2023) – Nodyn Atgoffa
ii) Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron
d)Cyngor Sir Ceredigion:
i) FW: Strategaeth Tai Lleol Ceredigion
ii) RE: Cais am Hysbysiadau Sedd Wag Achlysurol – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi
e) Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru:
FW: Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
f) Quatro:
Parthed: Ynglŷn â’r cynigion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd
g) Un Llais Cymru:
i) Pwyllgor Ardal Ceredigion 18.4.23
ii) Cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023.
iii) Achub y Dyddiad – Cynhadledd Arfer Arloesol
iv) Datganiad Ysgrifenedig: Iechyd Democrataidd Cynghorau Cymuned a Thref
h) Diolch am Ymgyrch 20:
Gwahoddiad i Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi i’n 3ydd Diolch am 20 – Diolch am 20 Zoom
i) Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru:
Cyfarfod Mabwysiadu Isafon – Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
9) Derbyn adborth gan Gynghorwyr a fynychodd y cyfarfod briffio ar 9 Mai 2023 gyda Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
10) Cynnig dyddiad cyfarfod i wahodd Quatro i roi cyflwyniad ar gynigion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd.
11) Cynnig ychwanegu arweiniad ar Enwi Tai ar Wefan y Cyngor
12) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
13) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
14) Ceisiadau Cynllunio
a) I ystyried y cais canlynol:
i) A230333 – Bryneirian, Llanddewi Brefi
15) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
16) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
17) Dyddiad y cyfarfod nesaf.
This page is also available in: English