Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 12/09/2022

PDF Lawrlwytho PDF

Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ddydd Llun 12 Medi 2022 am 7:00yh, yn y Ganolfan Gymuned.
Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Cyflwyniad gan Rachel Carter, Swyddog Datblygu Natur Lleol Un Llais Cymru.
3) Materion Personol.
4) Datgan diddordeb.
5) Public participation
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd.
Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda.
Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
6) Cadarnhau cofnodion 11 Gorffenaf 2022
7) Materion yn codi o’r cofnodion.
8) Adroddiad ariannol.

a) Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 30 Awst 2022
b) Cadarnhau taliadau:

i) Trwsio ffensys – Pynfarch quote from CCF
ii) Un Llais Cymru –Tâl aelodaeth 2023

Offer swyddfa’r Clerc –cymeradwyo taliadau diwygiedig
iii) Cyfrifiadur – dyfynbris o Pugh Computers
iv) Cabinet ffeilio – dyfynbris o Compass office supplies

Ad-dalu aelodau am daliadau.
v) Tanysgrifiad Zoom 06/06/22-06/09/22
vi) Bunting; 7 x 20m
vii) Blodau ar gyfer cofeb rhyfel
viii) Cyflenwadau amrywiol ar gyfer clwb ieuenctid

c) Taliadau cylchynnol:

i) BT – Neuadd. Ffôn a band llydan.

d) Taliadau a dderbyniwyd

i) Praesept – 2il randaliad; £2,833.33
ii) Hawliau claddu – £80.00
iii) Fforddfraint – BT Openreach – £4.80

e) Adolygu’r gyllideb.

9) Adolygu ffioedd awdurdodau claddu a threfniadau talu.
10) Ystyried cyllid ar gyfer casglu sbwriel/glanhau neuaddau pentref.
11) Ystyried ceisiadau am gymorth ariannol.
12) Y diweddaraf am brosiect Cynnal Llanddewi Brefi LEADER Grant project
13) Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).

a) Comisiwn Ffiniau i Gymru – Gyfnod Ymgynghori Eilaidd ar etholaethau newydd arfaethedig Cymru
b) Archwilio Cymru – Cyfarwyddiadau archwilio
c) Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Ffurflen flynyddol a dderbyniwyd
d) Cyngor Sir Ceredigion – Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi wedi’i ddiweddaru
e) Cyngor Sir Ceredigion – Adroddiad Archwilio Cymru
f) Un Llais Cymru –Iddyn Nhw: pecyn cymorth i randdeiliad | LLYW.CYMRU

g) Un Llais Cymru –Grantiau Bach – Creu Coetir | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

h) Hysbysiad galw’r diffibriliwr yn ôl.

14) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
15) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
16) Trafod newidiadau i amserlenni bysiau a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus
17) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
18) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
19) Dyddiad y cyfarfod nesaf.

07/09/2022

L Zanoni, Clerk to the Council 

This page is also available in: English