Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ddydd Iau 22 Rhagfyr 2022 am 7:30yh, yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd. Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda. Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
5) Trafod Cynnig ynghylch Cynllun Creu Coetir Blaendoethie:
Bydd Arwel Davies yn bresennol o Tilhill Forestry, i ateb ymholiadau gan aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd, er mwyn galluogi adborth gan y gymuned i gael ei gyflwyno ar ôl y cyfarfod fel rhan o’r ymgynghoriad cychwynnol.
6) Y diweddaraf am brosiect Cynnal Llanddewi Brefi LEADER Grant project
7) Cadarnhau cofnodion 14 Tachwedd2022
8) Materion yn codi o’r cofnodion.
9) Ystyried a ddylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu gwahardd o’r cyfarfod pryd ystyried yr eitemau canlynol (10-13) o fusnes (yn unol ag a1(2) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960, ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd).
10) Adolygu tâl staff yn unol ag argymhellion Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Chwefror 2023.
11) Cadarnhau trefniadau’r Contract Glanhau ar gyfer 2022-2023.
12) Ystyried y cynigion a ganlyn o dan Reol Sefydlog 9b:
a) Cynnig am rodd i Gogerddan Hunt.
13) Ystyried ceisiadau am gymorth ariannol.
14) Ystyried cynigion cyllideb ar gyfer 2023-202415)
15) Adroddiad ariannol.
a) Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 30 Tachwedd 2022
b) Cadarnhau taliadau:
i) Taliadau i staff a thaliadau chyfrinacholii)
Ad-dalu aelodau am daliadau.
ii) Tanysgrifiad Zoom 06/10/22-06/12/22
iii) Glanhau manion (Neuadd)
c) Taliadau cylchynnol:
i) BT – Neuadd. Ffôn a band llydan.
ii) Taliadau banc.
d) Taliadau a dderbyniwyd
i) Ailgylchu gwydr
16) Cymeradwyo ‘Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau – Adroddiad 2019’ (a gynhyrchwyd ym mis Rhagfyr 2022 i gyflawni rhwymedigaethau’r Cyngor i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 – Adran 6 Bioamrywiaeth)
17) Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).
a) Llywodraeth Cymru
i) Asedau Isadeiledd
b) Un Llais Cymru
i) Bwlio ac Aflonyddu mewn Cynghorau
ii) Croeso i’n cylchlythyr Gaeaf
iii) Dyfodol Cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth.
iv) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu – Diweddariad Tachwedd 2022
v) Egni
vi) Dolenni i gopïau digidol rhad ac am ddim o lawlyfrau CPAG
vii) Newidiadau i wasanaethau bysiau yng Ngheredigion 02-12-2022
viii) Ffermio Gwymon Cymru
ix) Deunydd Inffograffeg Bil Plastigau Untro
x) Papur Gwyn Gweinyddu Etholiadol a Diwygio
xi) Bwletin Newyddion Un Llais Cymru
xii) Cynllun Llesiant Lleol Drafft 2023-2028 Ymgynghoriad Cyhoeddus
xiii) FW: Deall pŵer cynlluniau arbedion cyflogres i gyflogwyr a gweithwyr.
xiv) FW: Cylchlythyr – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
xv) Cyfarchion Nadolig
xvi) Swydd Wag — Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cydraddoldeb, Tlodi a Thystiolaeth Plant – Llywodraeth Cymru
xvii) IONAWR, CHWEFROR A MAWRTH 2023 DYDDIADAU HYFFORDDI
xviii) Cyfnod Cau’r Nadolig
xix) Swydd Wag – Penodiadau Cyhoeddus
c) Hywel Dda – Adroddiad Cynghorau Iechyd Cymuned
i) Gwasanaethau Pediatrig y Dyfodol.
ii) Cylchlythyr diweddaraf CIC Hywel Dda.
d) Diweddariad Fferm Wynt Waun Maenllwyd:
i) FW: RE: Ynglŷn â’r cynnig sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Fferm Wynt Waun Maenllwyd.
e) Cyngor Sir Ceredigion
i) Ceredigion Actif : Cyfleoedd Ariannu Pellach.
ii) Gwasanaethau Technegol Ceredigion: FW: Digwyddiadau Arbennig a Chymunedol
iii) Praesept 2023-24 wedi’i derbyn, i’w chwblhau a’i dychwelyd erbyn 27/01/23.
iv) (Clerc)
v) Defnydd o Adeiladau’r Cyngor yn y Dyfodol
18) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
19) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
20) Ceisiadau Cynllunio.
a) I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:
i) A220754 – dolen i’r dogfennau Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon – Use of land for the purposes of a domestic garden at rear of 3 Penuwch Street, Llanddewi Brefi. Caniatawyd y Tystysgrif
b) Ystyried y ceisiadau canlynol:
i) A220878 – dolen i’r dogfennau Cynllunio llawn – Adeiladu storfa/tanc slyri a gwaith cysylltiedig. Garth, Llanddewi Brefi.
21) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
22) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
23) Dyddiad y cyfarfod nesaf.
This page is also available in: English