Cynhelir Cyfarfod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ddydd Llun 14 Tachwedd 2022 am 7:00yh, yn y Ganolfan Gymuned.
Dylai aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
1) Derbyn Ymddiheuriadau.
2) Materion Personol.
3) Datgan diddordeb.
4) Cyfranogiad y cyhoedd
Mae adran 48 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth i’r cyhoedd gyfranogi yng nghyfarfodydd llawn cynghorau cymuned neu’r rhannau hynny o gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd.
Bydd y cadeirydd yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol gyflwyno sylwadau am unrhyw eitemau o fusnes ar yr agenda.
Mae materion penodol i’w trafod i’w cyflwyno i’r Clerc 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd arferol a drefnwyd (fel arfer 2il ddydd Llun y mis).
5) Adolygu canlyniad prosiect Cynnal Llanddewi Brefi LEADER Grant project
a) Ystyried cynigion ar gyfer parhau â’r sesiynau ‘galw heibio’ clwb ieuenctid.
6) Cadarnhau cofnodion 10 Hydref 2022
7) Materion yn codi o’r cofnodion.
8) Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol (yn unol ag Adran 1(2) o Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960, ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Paragraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd).
9) Cadarnhau telerau cyflogaeth staff glanhau.
10) Derbyn Tystysgrif Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru ac adroddiad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021
11) Adroddiad ariannol.
a) Cymeradwyo cysoniad banc y cyfnod yn terfynu 31 Hydref 2022
b) Cadarnhau taliadau:
i) Taliadau i staff a thaliadau chyfrinachol
ii) Treuliau clerc
iii) Neuadd – Tâl llogi 25/10/2021-11/07/2022
Ad-dalu aelodau am daliadau.
iv) M E James – Prynu meddalwedd gwrth-feirws
c) Taliadau cylchynnol:
i) BT – Neuadd. Ffôn a band llydan.
ii) Taliadau banc.
d) Taliadau a dderbyniwyd
i) 3ydd rhandaliad o Praesept
ii) Banc – Teyrngarwch
iii) Ad-dalu rhoddion i Apêl y Pabi RBL ar ran mudiadau a grwpiau lleol
12) Gohebiaeth (danfonwyd i aelodau).
a) Un Llais Cymru
i) Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
ii) Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Chwefror 2023
iii) Cynllun grant newydd y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd
iv) Pwyllgor Ardal Ceredigion – 12.10.22
v) Dyddiadau Hyfforddiant Hydref, Tachwedd & Rhagfyr
vi) Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn ymdrechion twyll ar-lein
vii) Bwletin Newyddion
b) Cyngor Sir Ceredigion
i) Mannau Croeso Cynnes
ii) Canfyddiadau Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
iii) Newidiadau arfaethedig i derfynau cyflymder
c) Cylchlythyr Hydref CIC Hywel Dda
d) Llythyr i Gynghorau Cymuned a Threfi (Ceredigion) Eisteddfod yr Urdd 2023
e) Comisiwn Ffiniau i Gymru – Cynigion Diwygiedig
f) Ymholiad ynghylch 585 o wasanaethau bws o fis Ionawr 2023
13) Derbyn adroddiad yr Swyddogi Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH)
14) Adroddiad y Cynghorydd Sir am faterion yn codi o Geredigion.
15) Adroddiad Clerc – Un Llais Cymru – Cynhadledd Ar -Lein
16) Cais Cynllunio.
a) I nodi’r cymeradwyaethau canlynol:
i) A220288 – Installation and operation of a 90m temporary meteorological mast – Caniatawyd gydag Amodau
b) Ystyried y ceisiadau canlynol:
i) A220731 – linc i dogfennau. Cais Llawn–Proposed conversion of outbuilding into holiday unit to include new vehicular access; Llys y Dail, Llanddewi Brefi,
ii) A220751 – linc i dogfennau. Cais Amlinellol– Proposed new dwelling. Land Opposite To Tynllwyn Llanddewi Brefi.
iii) A220815 – linc i dogfennau. Cais Llawn– Erection of an agricultural shed to hold farm yard manure.
17) Derbyn adroddiad gan Bwyllgor Neuadd y Pentre a’r Caeau Chwarae.
18) Cwestiynau i’r Cadeirydd.
19) Dyddiad y cyfarfod nesaf.
This page is also available in: English