Agenda – Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 13/11/2023

Cynhelir cyfarfod cyffredin o’r Cyngor Cymuned Nos Lun 13eg Tachwedd 2023 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA

1. I dderbyn ymddiheuriadau.
2. Materion Personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 09 & 19 Hydref 2023.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Adroddiad ariannol
a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 31 Hydref 2023.
b. Awdurdodi taliadau.
i. Staff a thaliadau cyfrinachol
ii. Torri Porfa
iii. Ad-dalu treuliau’r Clerc (papur ysgrifennu/argraffu)
iv. Ad-dalu treuliau’r Clerc (Zoom)
v. Ffioedd yr Archwilydd Mewnol 2023
c. Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol newidiol parhaus:
i. BT – ffôn Neuadd a band eang.
ii. Powys DBS
d. Taliadau a dderbyniwyd.
i. Praesept – 3ydd rhandaliad
ii. Clwb Ieuenctid
8. Derbyn y Dystysgrif Archwilio ac adroddiad yr Archwilydd 2023.
9. Adolygu’r contract ar gyfer torri gwair 2024 a chyhoeddi gwahoddiad i dendro.
10. I dderbyn cyfrifon blynyddol y Mawndiroeddd (Rhif elusen 500142).
11. I dderbyn Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Chwefror 2024.
12. Adolygu cyflog y Clerc yn unol â Chytundeb Tâl Gwasanaethau Llywodraeth Leol 2023/24 .
13. Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd – Canlyniadau ymgynghori.
14. Galileo – Parc Ynni Bryn Cadwgan – Lansio ymgynghoriad
15. Gohebiaeth
a. Archwilio Cymru_ cwblhau archwiliad – Llanddewi Brefi CC .
b. Cyngor Sir Ceredigion
i. Banciau Bwyd .
c. Un Llais Cymru
i. Cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion 25_10_23.
ii. FW_ Cefnogaeth i gofnodi profiadau pobl hŷn o wasanaethau Meddygon Teulu.
iii. DYDDIADAU HYFFORDDIANT HYDFREF_ TACHWEDD & RHAGFYR 2023.
d. Fwd_ CAVO Infoburst .
e. Fwd_ Cylchlythyr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol .
f. Cefnogaeth Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi i’r Bil Hinsawdd ac Ecoleg.
g. Sesiynau Galw Heibio Cyngor ar Bopeth.
h. ICO – Cadarnhad adnewyddu ICO_00014784570
16. Derbyn adroddiad gan y PCSO
17. Adroddiad y Cynghorydd Sir ar faterion yn codi o Geredigion
18. Ceisiadau cynllunio
a. Nodi’r penderfyniadau canlynol
i. A220751 – Gwrthodwyd
ii. A230627 – Tynnwyd yn ôl
iii. A230458 – Caniatawyd gydag Amodau
19. Derbyn adroddiad gan bwyllgor y Neuadd Bentref a Meysydd Hamdden.
20. Cystadleuaeth y Golau Nadolig a threfniadau’r Ŵyl.
21. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
22. Dyddiad y cyfarfod nesaf

L Zanoni, Clerc i’r Cyngor

08/11/2023

This page is also available in: English