Cynhelir cyfarfod cyffredin o’r Cyngor Cymuned Nos Lun 8fed Ionawr 2024 am 7:30yh yn y Ganolfan Gymunedol. Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu o bell anfon e-bost at web@llanddewibrefi.org ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.
AGENDA
1. I dderbyn ymddiheuriadau.
2. Materion Personol.
3. Datganiadau o ddiddordeb.
4. Cyfranogiad y cyhoedd.
5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023.
6. Materion yn codi o’r cofnodion.
7. Adroddiad ariannol
a. Cymeradwyo’r cysoniad banc am y cyfnod yn diweddu 31 Rhagfyr 2023.
b. Awdurdodi taliadau.
i. Staff a thaliadau cyfrinachol
ii. Ad-dalu treuliau’r Clerc
iii. Treuliau digwyddiad Nadolig
c. Taliadau cylchol – cadarnhad o gyfarwyddiadau debyd uniongyrchol newidiol parhaus:
i. BT – ffôn Neuadd a band eang.
ii. Taliadau Banc
d. Taliadau a dderbyniwyd.
i. Llog banc / teyrngarwch
8. Adolygu darpariaeth Clwb Ieuenctid ar gyfer 2024-2025.
9. Fit For Future Facilities Programme – Cymru Football Foundation.
a. Ystyried goblygiadau cyllideb a llif arian y cais am grant.
10. Ystyried cynigion cyllideb a chymeradwyo’r praesept ar gyfer 2024-2025.
11. Cymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar Wariant Refeniw ynglyn â darparu Gwasanaethau yn ymwneud â Thir Claddu a Mynwentydd am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2023.
12. Adolygu cynllun hyfforddi statudol y Cyngor.
13. Gohebiaeth
a. Cyngor Sir Ceredigion
i. Llythyr a ffurflen praesept ar gyfer 2024-2025.
ii. Polisi Sachau Tywod.
iii. Cynlluniau hyfforddi cyngor cymuned
iv. Bwletin Tlodi Ceredigion
b. Un Llais Cymru
i. Enghreifftiau o gamau gweithredu bioamrywiaeth sydd eu hangen!
ii. Adroddiad ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion
iii. DYDDIADAU HYFFORDDI – IONAWR, CHWEFROR A MAWRTH
c. Galileo – Y diweddaraf am Barc Ynni Bryn Cadwgan – cais cwmpasu i PCAC
d. Belltown Power – Waun Maenllwyd-Cwestiynau Cyffredin Budd Cymunedol a Pherchnogaeth.
e. Cyfarfod cyhoeddus ynghylch twrbeini gwynt. Neuadd y Coroniad, Pumsaint – Nodiadau cyfarfod a dderbyniwyd 11/12/2023.
14. Derbyn adroddiad gan y PCSO
15. Adroddiad y Cynghorydd Sir ar faterion yn codi o Geredigion
16. Ceisiadau cynllunio
a. Ystyried y ceisiadau canlynol:
i. A230914; Cynllunio llawn; Parc cŵn newydd arfaethedig gyda gwaith cysylltiedig, Tir Gerllaw Celfan, Llandewi Brefi.
17. Derbyn adroddiad gan bwyllgor y Neuadd Bentref a Meysydd Hamdden.
18. Cwestiynau i’r Cadeirydd.
19. Dyddiad y cyfarfod nesaf
L Zanoni, Clerc i’r Cyngor
03/01/2024
This page is also available in: English