Agenda – Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi – 15/05/2023

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Cyngor nos Lun 15 Mai 2023 am 7pm yn y Ganolfan Gymuned. Dylai aelodau’r cyhoedd a hodffai fynychu yn rhithiol ebostio web@llanddewibrefi.org  ymlaen llaw i ofyn am ddolen i’r cyfarfod.

AGENDA:

  1. Ethol Cadeirydd i’r Cyngor Cymuned am y flwyddyn 2023/24. 
  2. Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2023/24. 
  3. Derbyn  Datganiad Derbyn Swydd gan y Cadeirydd.
  4. Ystyried a chymeradwyo  adroddiad blynyddol drafft Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi 2022/23 (I’w e-bostio cyn y cyfarfod). 
  5. Derbyn datganiadau diddordeb/rhagfarn. 
  6. Apwyntio Pwyllgorau a  a Gweithgorau: 
    1. Pwyllgor Rheoli’r Neuadd.
      (pob Cynghorydd yn aelod a’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd yn cadeirio).  
    2. Gweithgor bioamrywiaeth (Dyletswydd dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6. ).
  7. Apwyntio Cynrychiolwyr 
    1. Pwyllgor Un Llais Cymru (ar hyn o bryd Cyng E Kincaid and E James). 
  8. Apwyntio un Ymddiriedolwr i elusen Mawndiroedd (Rhif elusen: 500142).
  9. Cyfradd ad-dalu. Adolygu’r canlynol: 
    1. Lwfans Cadeirydd.
    2. Lwfans aelodau
  10. Adolygu dyletswyddau’r Clerc mewn cysylltiad â phwyllgor y neuadd bentref (adroddiad ynghlwm).
  11. Adolygu’r cofrestr asedau sefydlog (gweler cofrestr wedi ei atodi). 
  12. Adolygu a derbyn Rheolau sefydlog a Rheoliadau Ariannol. 
  13. Penderfynu a oes angen adolygu trefn gwyno’r Cyngor Cymuned. 
  14. Adolygu Cofrestr Asesiad Risg y Cyngor Cymuned (gweler Cofrestr AR 2022/23 wedi ei atodi). 
  15. Adolygu trefniadau Yswiriant y Cyngor.
  16. Adolygu gweithdrefnau a pholisïau’r Cyngor mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR). 
  17. Adolygu polisïau Amddiffyn a Diogelu cyngor Cymuned Llanddewi Brefi.  
  18. Adolygu polisïau cyflogaeth a gweithdrefnau’r Cyngor.
  19. Adolygu gwariant y Cyngor a dynnwyd o dan a.137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
  20. Adolygu’r Cynllun Hyfforddiant Statudol.
  21. Penderfynu amser a lleoliad cyfarfodydd y cyngor llawn hyd at/gan gynnwys y Cyfarfod Blynyddol y Cyngor llawn nesaf.

Lisa Zanoni

Clerc i’r Cyngor  – 10/05/2023

This page is also available in: English