Cyfle i ddweud eich dweud am y Cynllun Datblygu Lleol newydd

Dechreuoedd ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd (LDP2) ar 28 Mehefin 2019.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu sylwadau oddi wrth y cyhoedd ac unrhyw un sydd â diddordeb neu fudd yn y maes hwn a’i effaith ar Geredigion. 

Ar yr un pryd â’r ymgynghoriad ynghylch y strategaeth a ffefrir, mae’r Cyngor yn cyhoeddi ail wahoddiad i berchnogion tir gyflwyno manylion safleoedd (‘Safleoedd Ymgeisiol’) i’w hystyried fel tir datblygu yng nghyfnod nesaf y cynllun. Yn benodol, byddai’r Cyngor yn croesawu safleoedd sy’n gysylltiedig â’r Canolfannau Gwasanaeth arfaethedig sydd wedi’u rhestru yn y strategaeth a ffefrir. Mae gwybodaeth ynglŷn â’r drefn ar gyfer cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i’w gweld ar wefan y Cyngor.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan hanner dydd ar 12 Medi 2019. I ddarllen fwy, cliciwch yma: http://ow.ly/NmXe50uTsJr

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn: Saesneg