Diwydiant

History-map1

Ar un adeg roedd Llanddewi Brefi yn hunangynhaliol gyda’i seiri, saer maen, gofaint, teilwriaid, cryddion, melinwyr a gwehyddion ei hun. Mae ar daith y Porthmyn enwog a arferai yrru anifeiliaid ar draws Mynyddoedd y Cambria ar y ffordd i Lundain a’r marchnadoedd.
Mae Llanfair House neu Smith House yn un o sawl enghraifft leol o efail lle byddai ychen yn cael eu pedoli cyn eu gyrru ar droed i Lundain. Yn Derry Row roedd siop barbwr, cyfrwywr a gwneuthurwr plwmp. Roedd gweithdy saer maen yn y Morfa.
Roedd Ffatri Laeth Pont Llanio ger y rheilffordd yn safle prysur ac yn cynnig swyddi i bobl leol o 1937 nes iddi gau ar Fedi 30 1970. Agorodd y rheilffordd tua 1866 a chau ar Chwefror 20fed 1965 ond rhedodd y trên llaeth am bum mlynedd wedi hynny.
Yn y gorffennol roedd ynni dŵr yn gyrru peiriannau yn y pentref ac mae olion melinau ar hyd y pynfarch sy’n rhedeg drwy Ash Street lawr at Glanydon i Stryd y Felin a safle’r felin flawd. Roedd angen pŵer i yrru’r peiriannau yn y ffatri sanau yn Ochorgarth Fach a London Shop. Roedd y sanau yn cael eu danfon i Forgannwg gyda’r trên o Bont Llanio. Roedd ffatrioedd gwlân yn y Foelallt a lle mae Brynllan a Llwynonn yn sefyll heddiw.
Daeth y trydan cyntaf i gynnig golau i gartrefi’r pentref yn 1931. Gweithiai o beiriannau yn ‘Penbont’. Tynnwyd dŵr i ffynnon Dolgam yn 1890 a’r pris oedd £60. Rhedai dŵr ddydd a nos at ddefnydd y cyhoedd o’r tap yn wal y Foelallt Arms.

Seiliwyd y testun yn bennaf ar ddetholion o gylchgrawn “Yr Ancr”, ymchwil disgyblion Ysgol Llanddewi Brefi 1970 a’u Prifathro y diweddar Mr. Ben Richards.

HANES
MASNACH
CREFYDD AC ADDYSG

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn: Saesneg