Maes Parcio

Car Park

Lleolir y maes parcio ger canol y pentref rhwng yr Eglwys a Neuadd y Pentref. Mae bwrdd gwybodaeth gerllaw sy’n amlinellu ychydig fanylion am hanes y pentref. Lleoliad banc ailgylchu gwydr y pentref.
Mae toiledau cyhoeddus ddim pell o sgwar y pentref oddi ar y B4343, i’r dde o sgwar y pentref.

Polisi Maes Parcio’r Gymuned

  • Maes Parcio Cymunedol yw hwn, er lles y trigolion i gyd ac ymwelwyr â’r pentref.
  • Mae’r cyfleuster yn gymorth i gadw heolydd cul y pentref hanesyddol hwn yn glir a diogel.
  • Peidiwch â pharcio loriau mawr na threlyrs yn y maes parcio gan ei fod yn gymharol fach ac nad yw’n addas ar gyfer cerbydau heblaw ceir a faniau bach.
  • Maes parcio ar gyfer defnydd tymor byr yn unig yw hwn, peidiwch â chamddefnyddio’r cyfleuster os gwelwch yn dda.
  • Cynlluniwyd y polisi hwn i ganiatau mynediad teg i’r holl ddefnyddwyr.

Map Lleoliad

This page is also available in: English